Sarah Millican - WEDI'I GANSLO
Late Bloomer
Dydd Mercher 4 Medi 2024, 8.00pm
Dydd Iau 5 Medi 2024, 8.00pm
Pan oedd Sarah Millican yn hogan fach ddwedai hi ddim bw wrth gath fach. Yn dawedog yn yr ysgol, fawr o ffrindiau, dim brestiau tan oedd hi’n un ar bymtheg.
A rwan? RWAN mae hi’n uchel ei chloch, ffrindiau rhif y gwlith, bronnau i’w brolio ac mae’n dweud bw wrth gathod bach dros bob man.
Yn Late Bloomer, ei sioe stand-yp newydd sbon danlli grai, mae Sarah’n holi ac yn stilio ynghylch y daith o’r naill i’r llall.
At hynny, llond gwlad o bethau am giniawau a phwdin blew. Dewch draw, chwerthin am ei phen hi, ar y cyd â hi, wrth ei hochor.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.