Julian Clary - WEDI'I GANSLO
A Fistful of Clary
Dydd Sadwrn 25 Mai 2024, 7.30pm
Îîî-hô!
Glywsoch chi sôn am Y Gŵr Heb Enw? Wel, dyma i chi’r Gŵr Heb G’wilydd.
Mae Julian Clary, y gwrwgydiwr o fri a’r ffigari cenedlaethol, yn hwylio i lamu i’r cyfrwy a’i chychwyn hi ar ei daith yng ngwledydd Prydain yn 2024.
“Yes, it has a Western theme,” meddai’r hen gowboi, dan lymeitian Bourbon o bot peint.“ It was only a matter of time before I eased myself into some chaps,” meddai wedyn, gan ffatio’i arleisiau â chadach llaith.
Mae Julian yn siŵr y bydd y dynion yn y gynulleidfa ar dân i ymuno â’i fintai a chael ei Irgroen dan eu dwylo. Bydd yr ychydig lwcus yn chwarae efo fo ar lwyfan yn y salŵn Hang ‘em Low, lle byddai Wild Bill Hickok yn arfer â chyfarfod ei gyfaill mynwesol, Raving Clarence la Fruit. Ond roedd bywyd yn arw yn yr Hen Orllewin. Nid pob un o griw gwyllt Julian fydd yno i fod yn dyst i’r frwydr saethu derfynol fydd yn arwain i ymgysegru Julian yn ddihunan ar awr anterth i’r gŵr olaf ar ei draed. Pwy ŵyr be arall y bydd yn fodlon ei wneud am ddoler neu ddwy dros ben?
“A man’s gotta do what a man’s gotta do…” drawls Julian cryptically before becoming
engrossed in his embroidery."
‘Julian Clary unleashes a tsunami of smut’
The Guardian
‘The master of camp comedy ….. mixing the expected with the spontaneous,
he is pure entertainment.’
The Times
‘Adult comedy that makes you giggle like a child’
The Standard
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.