Joel Dommett

Yn fuan ar ôl ei anturiaethau ar I’m A Celebrity Get Me Out Of Here 2016, mae un o gomedïwyr mwyaf egnïol a chyffrous y DU yn ôl ar ei deithiau gyda’i sioe solo, Joel Dommett:LIVE.Dewch i weld seren Bring The Noise Sky1 yn dweud ei ddweud yn ei ffordd unigryw ei hun.

Daeth Joel i sylw’r sîn gomedi yn 2007, a dyw e heb edrych yn ôl ers hynny.Ar ôl cael ei ganmol i’r cymylau am ei sioeau yng Ngŵyl Caeredin, mae wedi ymddangos mewn nifer o sioeau teledu, gan gynnwys Impractical Jokers (BBC3), Reality Bites (ITV2), Russell Howard's Good News (BBC), Drunk History (Comedy Central), ac wedi perfformio mewn rolau action yn Popatron (BBC2) a Skins (E4).

Yn addas i: 14+ oed (Rhegi a phynciau i oedolion yn debygol)

 
Pris Safonol £18.50 pob sedd
Myfyrwyr £15.50 pob sedd

 

Yn ogystal â Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 fesul trafodyn a ffi postio dewisol o £1.00 ar gyfer postio tocynnau.  Gwybodaeth llawn am Dâl Gwasanaeth Tocynnau cliciwch yma 

Caiff yr archeb ei chanslo os caiff tocynnau eu hail-werthu heb gytuno ar hyn ymlaen llaw. Gallwch ddefnyddio Twickets neu’r lleoliad ei hun.

 

 
Bwciwch Nawr