Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd

CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD
Tymor 2017/18


Yn sgil blwyddyn hynod lwyddiannus, mae CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD yn ei hôl gyda thymor newydd cyffrous, yn cynnwys clasuron o Rwsia, chwedlau’r byd ffilm a symffonïau ysblennydd.

Mae tymor 2106/17 yn cychwyn yn danllyd ac angerddol gyda From Russia…With Love (Gwener 20 Hydref).Mae’r gyngerdd wych hon yn rhan o Ŵyl R17, fydd yn digwydd ledled y ddinas. Mae’r Ŵyl yn nodi canmlwyddiant y Chwyldro Rwsia a  bydd yn adlewyrchu ffrwydrad cymdeithasol a diwylliannol yr oes.

Bydd Concerto  Piano Rhif2 Rachmaninov yn ganolbwynt anhygoel i’r rhaglen. Mae’n gyfarwydd i ddilynwyr ffilm fel y gerddoriaeth ramantus sydd yn y ffilm Brief Encounter.  Bydd Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC 2014, sef Martin James Bartlett, yn perfformio gyda Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd mewn perfformiad hudolus o'r clasur hwn.

Bydd yr Adagio gwych o Spartacus Khachaturian, a ddefnyddiwyd yn thema agoriadol i'r gyfres deledu boblogaidd The Onedin Line, hefyd yn cael ei berfformio.Bydd y gyngerdd yn cloi gyda bale lliwgar Stravinksy, Petrushka, gyda’i bypedau byw yn llamu ar hyd y llwyfan!

Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer A Night at the Movies y llynedd. Bydd yn dychwelyd eleni, ar nos Wener 8 Rhagfyr, gyda dathliad o ben-blwydd gwaith John Williams yn 85 oed.Bydd cerddoriaeth o Jurassic Park, ET, Saving Private Ryan a darnau gorau Star Wars i gyd yn cael eu perfformio – rhagflas arbennig ar gyfer Episode VIII, fydd yn cael ei rhyddhau wythnos yn ddiweddarach!

Bydd symffonïau gan Haydn a Brahms yn swyno cynulleidfaoedd, ac felly hefyd gwaith gwych Vaughan Williams, The Lark Ascending, sy’n cael ei ddewis yn gyson yn hoff ddarn clasurol Prydain, yn Classics for All (Gwener 16 Mawrth).

Bydd cyfle hefyd i fwynhau Symffoni Rhif 3 Mahler, gwaith hudolus a hyfryd,  (Gwener 15 Mehefin), gan roi diweddglo gwych i’r tymor, ar gyfer cerddorfa fawr a dau gorws, gyda’r mezzo-soprano Kate Woolveridge.

Tachwedd 2017
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio