Amdanom ni Beth sydd ymlaen Sut i godi tocynnau Cyfloedd busnes Profiad y Cyfeillion
Profwch Bob Maes Bywd a diod Sut i gael hyd i ni Gwasanathau ar gyfer cwsmeriaid anabl
Ymunwch a'n rhestrau post ni Cyfleusterau cynadledda Orielau'r cynteddau Siopa Cysylltau
English
Cyfleoedd Busnes > Aelodaeth Gorfforaethol

I gynnig y cyfle i’r gymuned fusnes ddod yn bartner â dau o’r lleoliadau adloniant gorau yng Nghaerdydd, mae’r Tîm Noddi a Phartneriaeth wedi creu cynlluniau aelodaeth blynyddol sy’n addas i gwmnïau bach, canolig a mawr.



10 RHESWM DROS DDOD YN AELOD
Rydym yn awyddus i gynnig Adloniant Corfforaethol rhwydd i gwmnïau prysur!


MANTEISION CRAIDD
Cynigir y manteision hyn i bob Partner Corfforaethol

Blaenoriaeth ar gyfer defnydd corfforaethol yn cynnwys hyd at 6 tocyn ar gyfer sioeau poblogaidd a 3 rhaglen am ddim
Cewch wybodaeth am y perfformiadau cyn i'r tocynnau fynd ar werth yn gyhoeddus
Cewch flaenoriaeth wrth brynu tocynnau i Staff a chael gostyngiad ar rai perfformiadau 
Cyfle i rwydweithio gydag aelodau eraill 
Caiff y cwmnïau gydnabyddiaeth yn y rhaglenni a'r llyfrynnau yn ystod y flwyddyn gefnogi
Caiff rhyw 420,000 o lyfrynnau eu dosbarthu pob blwyddyn
Cyfleuster anfonebau tocynnau at ddefnydd corfforaethol
Cwech anfoneb am yr holl docynnau a brynwch (at ddiben corfforaethol yn unig)
Cyfle i logi ystafell am ddim gyda'r nos a chyda gostyngiad yn ystod y dydd
Gallwch logi ystafelloedd a defnyddio mannau corfforaethol am ddim er mwyn cynnig adloniant i westeion a derbyn gostyngiad yn ystod y dydd: sy’n ddelfrydol ar gyfer cyfweliadau, diwrnodau dysgu, cyfarfodydd yng nghanol y ddinas (os ydyw’r ystafelloedd ar gael). Cynigir pris arbennig ar gyfer llogi’r lleoliad ar gyfer seminarau/ciniawa.
Cyfleoedd E-farchnata i aelodau eraill trwy gydlynydd aelodaeth a chydnabyddiaeth i'r cwmnïau ar y wefan yn ystod eu blwyddyn gefnogi 
Gostyngiad o 10% yn y Bwyty
Bar a Chegin Laguna, Gwesty Park Plaza Caerdyff, Heol y Brodyr Llwydion - Gwesty Partner y New Theatre
Gostyngiad o 10% yn y Siop Anrhegion yn Neuadd Dewi Sant
Ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm.  Cyfle da i brynu anrhegion corfforaethol ar ôl y cyngerdd
Difyrru gwesteion yn y Clwb Rygbi Corfforaethol
Pencampwriaeth y Chwe Chenedl (gemau adref yn unig)
Cyfle gwych i gwmnïau ddifyrru eu gwesteion mewn clwb unigyw.
Bydd bwffe a bar ar gael cyn y gêm am ostyngiad yn dechrau o £30.00 y pen yn ogystal â
chost y bar
Mae te'r prynhawn wedi'i gynnwys yn y pris
rhaid cael 10 gwestai mewn grŵp - ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu
Nid yw'r pris yn cynnwys cost y tocynnau



Aelod Corfforaethol: £1,000 + TAW
CYNIGION CROESO YCHWANEGOL

Difyrru Cleientiaid neu Wobrwyo'r Staff
Tocynnau am ddim a chroeso ar gyfer 10 o westeion ar gyfer perfformiad yn Neuadd Dewi Sant neu'r New Theatre, â chyfle i brynu tocynnau ychwanegol a chroeso
Cyfle i brynu hyd at 10 tocyn ar gyfer perfformiadau yn Neuadd Dewi Sant a’r New Theatre 
5 rhaglen am ddim am bob perfformiad yr ydych yn prynu tocynnau ar ei gyfer



Un digwyddiad: £1,650 + TAW
Am £650 ychwanegol + TAW beth am ddifyrru cleientiaid neu wobrwyo staff
Am £65 + TAW y pen yn cynnwys tocyn, potel gwin a phryd bwyd
3-chwrs â choffi
Pris arferol £80 + TAW y pen


TAL AELODAETH
Dewis 1 dull talu o’r dewis isod
Cyfleuster Anfoneb Aelodaeth
Anfoneb am gost yr aelodaeth
Cyfle i gynnig rhodd cymorth
Mae'r Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn cefnogi'r rhaglen addysg a chymunedol.
Mae'r Tîm Noddi a Phartneriaeth yn codi arian drwy roddion gan sefydliadau elusennol ac yn cynnig y cyfle i chithau gyfrannu hefyd




Virtual Auditorium (opens in a new window) Virtual Tour (opens in a new window)