Disgowntiau
Mae'n bosib y bydd rhai o'r disgowntiau yma neu'r cwbl ohonynt yn berthnasol
i rai digwyddiadau: Plant, Pobol dros eu 60, Myfyrwyr, Cyfeillion, Hawlwyr,
Pobol anabl ynghyd ag un cydymaith, Pobol ddi-waith, Deiliaid cardiau MAX
a Grwpiau. Gweler y disgowntiau penodol sydd ar gael ym manylion
y sioeau unigol. Dim ond un disgownt y tocyn y ceir ei ddefnyddio ac mae gofyn prawf
o'ch statws - a wnewch chi ddweud eich bod yn gwneud cais am ddisgownt pan
fyddwch chi'n codi'ch tocynnau.
Tocynnau
myfyrwyr
Mae tocynnau myfyrwyr ar gael am hanner pris i gyngherddau cerddorfaol syn
rhan o Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol Neuadd Dewi Sant. Mae disgowntiau ar gael
hefyd ar gyfer digwyddiadau dethol eraill - gweler y tudalennau Beth
sydd ymlaen unigol am fanylion.
CERDYN
MAX
Mae
Neuadd Dewi Sant yn cynnig y gostyngiadau a gyhoeddir
i holl hawlwyr budd-daliadau, gan gynnwys pobol ddi-waith.
Ffurf adnabod hwylus i bobol Caerdydd ydir cerdyn
MAX (gynt or enw cerdyn Pasport i Hamdden Caerdydd)
sydd hefyd yn rhoi hawl i ostyngiadau yng nghanolfannau
hamdden a chwaraeon Caerdydd. Fe gewch chi un o unrhyw
Swyddfa Bost yng Nghaerdydd.
Dewch â pharti
Dewch â pharti ac arbed arian gwerth chweil! Mae Neuadd Dewi Sant yn croesawu
grwpiau o bob maint; rhoddir disgowntiau ar ddigwyddiadau dethol i grwpiau o
10 neu fwy. Bydd ein Trefnydd Gwerthiannau Grŵp, Chris Blackler yn falch
och helpu chi gyda chodi tocynnau yn ogystal â gydag agweddau eraill
ar eich ymweliad a gallwch gysylltu â hi ar 029 2087 8878.
Plant
Mae yna ostyngiadau a phrisiau arbennig i lawer o ddigwyddiadau. Gweler y paneli
prisiau am ddigwyddiadau unigol. Er eich cysur ach diogelwch eich hun,
mae gofyn i bob plentyn oedran cerdded fod â thocyn.
Ad-dalu
a ffeirio
Os ydych chin methu dod i ddigwyddiad, gallwch ffeirioch tocynnau
ar gyfer digwyddiad arall hyd at 48 awr cyn y perfformiad. Rhaid i chi ffeirion
bersonol yn y Swyddfa Docynnau a chodir ffi weinyddu £1 am y gwasanaeth
yma. Gwaethar modd allwn ni ddim rhoi ad-daliadau. Fel arall fe dderbyniwn
ni docynnau iw hailwerthu ar yr amod bod tocynnau Neuadd Dewi Sant ei hun
i gyd yn cael eu gwerthu gyntaf ac na allwn ni fyth warantu ailwerthu. Allwn
ni ddim ailwerthu oni bai eich bod chin dod âr tocynnau gwreiddiol
yn ôl ir Swyddfa Docynnau yn gyntaf. Fe gadwn ni 10% gwerth unrhyw
ailwerthu am y gwasanaeth yma. |
|
|
Hwyrddyfodiaid
Er mwyn peidio â tharfu ar gwsmeriaid eraill, maen ddrwg gennym na
fydd hwyrddyfodiaid, mewn rhai cyngherddau, yn neilltuol datganiadau, ddim yn
cael mynd i mewn ir awditoriwm nes bydd yna saib addas. Fe allwch chi,
fodd bynnag, wylior cyngerdd ar y teledu cylch cyfyng ar Lefel 3.
Amodau
gwerthu Neuadd Dewi Sant
1. Fe all fod rhaid, oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld, gwneud
newidiadau yn y cast neur rhaglen, a rydym ni felly yn cadwr hawl
i wneud hyn.
2. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd gofyn i ni wrthod gadael i rywun ddod
i mewn, ac os digwydd hynny, efallai na fyddwn ni ddim yn ad-dalur ffïoedd
mynediad a dalwyd.
3. A wnewch chi edrych yn ofalus ar eich tocynnau i wneud yn siwr fod yr holl
fanylion yn gywir. Mae ad-dalu fel y gwêl yn dda Rheolwr y Swyddfa Docynnau.
Ar
agor trwyr dydd
Hyd yn oed os nad ydych chin dod i gyngerdd, mae croeso i chi ddod i fwrw
golwg ar y cynteddau yn ystod y dydd. Maer cynteddau ar agor ir cyhoedd
fel arfer o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn o 10am tan 4.00pm (ac eithrio Gwyliau
Banc a dyddiau Sul) felly piciwch i mewn i fwrw golwg, i weld arddangosfa, neu
aros i gael diod neu damaid o fwyd.
Codi
tocynnau trwyr post
Pan fyddwch chin codi tocynnau trwyr post, a wnewch chi ysgrifennu
at y Swyddfa Docynnau gyda manylion cyflawn ynghylch y tocynnau y mae arnoch
chi eisiauu codi, gan gynnwys dyddiad ac enwr cyngerdd neu gyngherddau,
nifer a phris y tocynnau sydd eisiau (gan gynnwys unrhyw ddisgowntiau rydych
chin eu hawlio), ach dewis fan eistedd (a wnewch chi roir man
yn hytrach nar seddi neilltuol, na allwn ni mou haddo). A wnewch
chi roi i ni eich enw, eich cyfeiriad, eich cod post ach rhif ffôn
yn ystod y dydd, ac amgáu naill ai eich siec yn daladwy i Ddinas a Sir
Caerdydd neu eich manylion cerdyn credyd/Switch (gan gynnwys y dyddiad terfyn
ar rhif dosbarthu Switch), yn ogystal ag amlen â stamp a chyfeiriad
ar gyfer anfon eich tocynnau. |
|