Amdanom ni Beth sydd ymlaen Sut i godi tocynnau Cyfloedd busnes Profiad y Cyfeillion
Profwch Bob Maes Bywd a diod Sut i gael hyd i ni Gwasanathau ar gyfer cwsmeriaid anabl
Ymunwch a'n rhestrau post ni Cyfleusterau cynadledda Orielau'r cynteddau Siopa Cysylltau
English
Image map for Virtual Auditorium and Virtual Tour graphical features  
Chwaraewch eich rhan ym Mhrofiad y Cyfeillion

Y pennaf Gyfeillion... manteision dod yn un o Gyfeillion Neuadd Dewi Sant


Audience in the foyerAchub y blaen yn codi tocynnau... Gewch chi elwa ar achub y blaen yn codi tocynnau cyn cyfle’r cyhoedd ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Neuadd Dewi Sant.

Llyfryn bob yn ddeufis... Daw ein llyfryn deufisol i law trwy’r post cyn i’r cyhoedd ei gael, gan sicrhau eich bod chi’n un o’r rhai cyntaf i wybod am sioeau i ddod. (Os oes rhaid i sioe fynd ar werth ar fyr rybudd, lle bo modd rydym yn cadw dogn o docynnau ar gyfer Cyfeillion.)

Gostyngiadau... Arbed arian gyda gostyngiadau arbennig ar gyfer Cyfeillion ar lawer o’r cyngherddau a’r digwyddiadau yn Neuadd Dewi Sant.

Cylchlythyr... Gewch chi glywed y newyddion diweddaraf ynghylch beth sydd ar fynd yn y Neuadd ac yng nghylch y Cyfeillion gyda’ch copi personol o gylchlythyr y Cyfeillion, Llwyfan, a anfonir atoch chi bob yn ail fis.

Spotlight newslettersCystadlaethau...
Rhowch gynnig ar ennill tocynnau, marsiandïaeth a gwobrau tan gamp yn y cystadlaethau sydd ar gyfer y Cyfeillion yn unig yn Llwyfan.

Trefnydd y Cyfeillion...
Mae ein Cyfeillion o bwys - mae Wendy Scanlon, Trefnydd y Cyfeillion, ar gael fel eich dolen gyswllt bersonol chi yn y Neuadd.

Digwyddiadau cymdeithasol... Dewch i fwynhau’r amrywiaeth o wibdeithiau a digwyddiadau arbennig y mae Pwyllgor y Cyfeillion yn eu trefnu.

Cerdyn aelodaeth... Fyddwch chi’n ddethol gyda’ch cerdyn aelodaeth eich hun.


Dewch i fod yn rhan o Brofiad Neuadd Dewi Sant!
How to join the Friends

Dim ond £15.00 y mae’n ei gostio i ddod yn un o Gyfeillion Neuadd Dewi Sant, ac fe allwch chi ymuno trwy brintio a llenwi’r ffurflen gais isod a’i hanfon yn ôl at Wendy Scanlon, Trefnydd y Cyfeillion, RHADBOST, Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1YY.


Ffurflen aelodaeth - a wnewch chi ddefnyddio llythrennau bras

Enw
Mr/Mrs/Miss/Ms


Cyfeiriad



Cod Post




Rhif teleffon (gan gynnwys y cod STD)
Yn ystod y dydd
Gyda'r nos


Taliad

Ticiwch fel y bo'n addas:

Rwy’n amgáu siec/archeb bost yn daladwy i: Dinas & Sir Caerdydd

A wnewch chi godi ar fy ngherdyn Mastercard/Visa/Switch am £15.00

Rhif cerdyn

Dyddiad terfyn y cerdyn
Rhif dosbarthu (Switch yn unig)

Llofnod deiliad y cerdyn

Dyddiad

Virtual Auditorium (opens in a new window) Virtual Tour (opens in a new window)