Amdanom ni Beth sydd ymlaen Sut i godi tocynnau Cyfloedd busnes Profiad y Cyfeillion
Profwch Bob Maes Bywd a diod Sut i gael hyd i ni Gwasanathau ar gyfer cwsmeriaid anabl
Ymunwch a'n rhestrau post ni Cyfleusterau cynadledda Orielau'r cynteddau Siopa Cysylltau
English
Image map for Virtual Auditorium and Virtual Tour graphical features
Bwyd a diod

Mae gan Neuadd Dewi Sant ddau far ar Lefelau 3 a 5, Bwyty ac Oriel y Sêr ar Lefel 1 ac Art Café Celf sydd newydd ei ailwampio.
Art Cafe Celf logo Art Café Celf

Tarwch heibio i’r café tymherus yma sydd newydd ei ailwampio ar Lefel 4 a chael blas ar fwyd o safon uchel wedi’i gynhyrchu’n lleol, gan gynnwys dewis eang o frechdanau, baguettes, teisennau a diodydd poeth. Lle braf a lliwgar i ymlacio, ymhell o ffair a ffwndwr canol y ddinas islaw.

Oriau agor: dydd Llun – dydd Sadwrn 10.00am – 4.00pm
Am fanylion pellach neu unrhyw gwestiynau, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Swyddfa Arlwyo ar 029 2087 8450.

Leaf logo

Bwyty ac Oriel y Sêr

Mae gan Fwyty’r Sêr bopeth y mae arnoch chi’i angen ar gyfer pryd blasus, ganol dydd neu gyda’r hwyr; bwydlen gynhwysfawr, awyrgylch cyfeillgar, gwasanaeth cymwynasgar, amgylchedd cyfforddus ac mae bellach yn rhoi lle amlwg i waith artistiaid lleol ar barwydydd y bwyty.

Dewiswch o blith bwydlen ganol dydd amrywiol y mae’n amcan ganddi gynnig rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys dewis o Gownter y Cerfdy a bwydlen ‘Mân Dameidiau’.

Mae’r fwydlen fendigedig gyda’r hwyr o fwydydd Cymreig ac Ewropeaidd yn cynnwys ‘Swper Sioe’ dau gwrs gyda choffi neu Gerfdy dau gwrs gyda choffi am ddim ond £12.00 yr un.

Oriau agor: dydd Llun – dydd Sadwrn 12.00pm – 2.15pm ac o 6.00pm pan fydd perfformiad gyda’r hwyr – a wnewch chi fwrw golwg ar y tudalennau digwyddiadau unigol i wneud yn siwr fod y bwyty ar agor cyn ac/neu ar ôl y cyngerdd ar gyfer unrhyw ddyddiad y mae gennych chi ddiddordeb ynddo.

Am fanylion pellach neu unrhyw gwestiynau, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Swyddfa Arlwyo ar 029 2087 8450 neu Fwyty’r Sêr ar 029 2087 8463.
 
Barrau Lefelau 3 a 5

Gallwch osgoi’r ciwiau yn ystod yr egwyl, a chodi’ch diodydd cyn i’r cyngerdd gychwyn. Mae’r ddau far yn cynnig y gwasanaeth codi diodydd egwyl yma yn ystod digwyddiadau ar Lefel 3 megis y nosweithiau jazz misol a chyfleusterau sgrîn fawr yn ystod gemau rygbi rhyngwladol.

Am fanylion pellach neu unrhyw gwestiynau, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Swyddfa Arlwyo ar 029 2087 8450.
 
Derbyniadau

Mae’r cyfleusterau bwyd a diod yn Neuadd Dewi Sant yn cael eu rhedeg gan Cardiff Catering, gwasanaeth arlwyo holl oedfannau’r cyngor, gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Neuadd y Sir, Y Plasty a Neuadd Dewi Sant. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth hyblyg ac amlochrog iawn, sy’n gallu hwylio ar gyfer derbyniadau o bob maint a math, gan gynnwys hwylio ar gyfer amrywiaeth eang o ofynion o ran bwyd.

O ginio canol dydd bys a bawd syml ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol i wasanaeth arian cyflawn ar gyfer ciniawau gala ar gyfer pennau gwladwriaethau i fwydlenni â themâu i ateb eich dibenion corfforaethol; mae gan Cardiff Catering brofiad cynhwysfawr o bob mathau o ofynion.
Virtual Auditorium (opens in a new window) Virtual Tour (opens in a new window)