Amdanom ni Beth sydd ymlaen Sut i godi tocynnau Cyfloedd busnes Profiad y Cyfeillion
Profwch Bob Maes Bywd a diod Sut i gael hyd i ni Gwasanathau ar gyfer cwsmeriaid anabl
Ymunwch a'n rhestrau post ni Cyfleusterau cynadledda Orielau'r cynteddau Siopa Cysylltau
English

Exhibitions

Datganiad i’r Wasg

Artist y Flwyddyn Cymru 2007

Walter Keeler ydi Artist y Flwyddyn Cymru 2007

NI CHEIR EI GYHOEDDI AR UNRHYW GYFRIF CYN DYDD SUL, MEHEFIN 3, 3pm

Enwir yr artist Walter Keeler sydd â’i gartref yn Nhrefynwy yn Artist y Flwyddyn Cymru ddydd Sul, Mehefin 3, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Detholodd y panel beirniaid ei gynnig ceramig halen-wydrog ‘W.I.’, sy’n cynnwys tebot mawr a naw mwg, gan ddweud ei fod yn “orchest hynod”.

Mae Walter, yn gyn-feirniad Artist y Flwyddyn Cymru yntau, hefyd wedi ennill y wobr Celf/Crefft Gymhwysol.

Talodd y beirniad Duncan Ayscough, artist ac uwch-ddarlithydd mewn cerameg yn APCC, deyrnged i wythfed Artist y Flwyddyn Cymru.

“This presentation of a large salt glaze tea pot and mugs encapsulates the work of Wally Keeler at its best. Effortless skill combined with a joy and understanding of social and ceramic histories, blended with a dry humour.

“Wally has relentlessly pursued his passion for the process of making and the function of the outcomes. Ingenious interpretation and reinterpretation of the familiar objects of daily life draw on the broad history of the ceramic processes.

“Despite the familiarity of the object, or possibly because of that familiarity, the ability of his pots such as this significant presentation W.I. have the same power to effect the viewer albeit in a more intimate physical scale as a Norman Foster building or a Barbara Hepworth sculpture.

Artist y Flwyddyn Cymru 2007 (2/4)

“His contribution to art practice extends far beyond the area of ceramic practice and indeed the applied arts and can truly be considered as an artist of international importance.”

Trechodd cynnig Walter oddeutu 450 o gynigion oedd yn cystadlu mewn amrywiaeth o arddulliau a chyfryngau.

Bydd y beirniad Duncan Ayscough yn cyflwyno siec £2000 iddo, mewn seremoni wobrwyo brynhawn dydd Sul.

‘W.I.’ fydd y brif eitem yn arddangosfa ganlynol Artist y Flwyddyn Cymru, sydd ar fynd o ddydd Llun, Mehefin 4 tan Awst 10, yn Orielau Cynteddau Neuadd Dewi Sant.

Anrhydeddir deuddeg artist arall yn y seremoni wobrwyo, fydd yn digwydd am dri o’r gloch y prynhawn ar lefel tri yn y Neuadd.

Bydd yna deyrnged hefyd i’r diweddar artist Tony Goble, y detholwyd ei lun ‘Departure’ ar gyfer yr arddangosfa cyn ei farw ym mis Ebrill.

“The judges felt this collection of 135 pieces truly represented what is best about the Welsh art world, and there should be something for every taste,” meddai curadur yr arddangosfa Ruth Cayford.

“We hope the exhibition will encourage new and emerging talents to submit their pieces in what will be a bigger and better show next year.”

YR ENILLWYR YN LLAWN

Yr enillydd dros bawb: Walter Keeler (o Drefynwy) am ‘W.I.’

Yr ail wobr: Virginia Head (Caerdydd) am ‘Pelegrina’

Y drydedd wobr: Daphne Hurn (Y Fenni) am ‘Adleisiau’

Y Wobr Ffotograffiaeth: William Tsui (Port Talbot) am ‘Sioe Gŵn Abertawe’
Y Wobr gerflunwaith: Robert Harding (Llantrisant) am ‘Powlen Bigog’
Y Wobr beintio: Emrys Williams (Bae Colwyn) am ‘Siambr’
Y Wobr Gwneud Printiau: Andrew Baldwin am ‘Pensyfrdan’
Y Wobr luniadu: Heather Eastes (Aberystwyth) am ‘Wyneb a Ffigur Ŵy’
Gwobr y myfyrwyr: Rachel Loosemore (Aberpennar) am ‘Entropi’.

 chanmoliaeth uchel: Chris Griffin am ‘Bwrdd Stiwdio III’; Tom Piper (Caerdydd) am ‘Teyrnged…’; Jin Eui Kim (Caerdydd) am ‘Di-deitl’ a Margaret Crossley (Caerdydd) am ‘Ailgylchwyr’.

Nodiadau i Olygyddion

Enwau blaenllaw ym myd celfyddyd Cymru oedd beirniaid y gwobrau: yr Athro David L Carpanini, artist a chyn-Lywydd y Royal Society of Painters and Printmakers; Sally Moore a Ruth Harries, ill dwy yn artistiaid ac yn gyn-enillwyr Artist y Flwyddyn Cymru; y Dr Peter Wakelin, beirniad a hanesydd celfyddyd; Ruth Cayford, y Swyddog Arddangosfeydd yn Neuadd Dewi Sant; Duncan Ayscough, artist ac uwch-ddarlithydd mewn cerameg yn APCC; Moira Vincentelli, uwch-ddarlithydd mewn hanes celfyddyd a churadur cerameg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth; Ralph Turner, Curadur a Beirniad Celfyddydau a Dylunio Cymhwysol (cyn-Gyfarwyddwr Arddangosfeydd yn Craft Council Llundain.

Categorïau’r gwobrau ydi Ffotograff Gorau, Cerflun Gorau, Celfyddyd Gymhwysol Orau, Lluniad Gorau, Print Gorau a Myfyriwr Gorau.

Bydd yr enillydd dros bawb yn cael siec £2,000.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i unrhyw artist dros 18 oed, sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac unrhyw artistiaid o Gymry sy’n byw yn y DU.

Sylfaenwyd Artist y Flwyddyn Cymru yn ystod blwyddyn y mileniwm er mwyn hyrwyddo a mawrygu’r cyfoeth o allu artistig yng Nghymru. I ddechrau digwyddiad untro oedd y bwriad, ond mae’r gystadleuaeth bellach ar ei sethfed flwyddyn. Bob blwyddyn mae’r categorïau wedi helaethu fel y mae’r gystadleuaeth wedi tyfu a datblygu.

Mae lluniau cynigion dethol ar gael

Am ragor o wybodaeth, a wnewch chi gysylltu â Ruth Cayford ar 029 2087 8706 / rcayford@cardiff.gov.uk neu Jo Manning ar 07881 915803 / jo_manning77@yahoo.co.uk




ORIELAU CYNTEDDAU NEUADD DEWI SANT

Welsh Artist of the Year logo

Tarwch heibio a phori wrth eich pwysau ymhlith yr amrywiaeth eang o bethau sydd ar ddangos trwy hyd a lled Orielau Cynteddau’r Neuadd. Mae Arddangosfa Nadolig Neuadd Dewi Sant a Chystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru yn ddwy o uchelfannau calendr y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac mae iddyn nhw bellach yr enw o arddangos gweithiau trawiadol gan artistiaid newydd ac artistiaid sydd wedi ennill eu plwy.




Stondinau Crefft
Ar lefelau 1, 2 a 3, yn ychwanegu at ein rhaglen arddangos, mae arddangosfa newidiol o grefft gyfoes a thraddodiadol gan rai o’r gwneuthurwyr a’r dylunwyr gorau o Gymru ac ymhellach draw.



Oriau agor
Mae Orielau’r Cynteddau ar agor 10.00am - 4.00pm, o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn a’r rhan fwyaf o nosweithiau pan fydd perfformiadau ar fynd. Fodd bynnag, oherwydd natur y digwyddiadau yn Neuadd Dewi Sant, o bryd i’w gilydd efallai na chaiff y cyhoedd fynd i’r holl fannau arddangos. Doeth o beth ydi rhoi caniad i’r ddesg groeso ar 029 2087 8500 i wneud yn siwr fod Orielau’r Cynteddau ar agor, cyn dod yma’n unswydd.

Gwerthiannau’r Arddangosfeydd

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu un o’r celfyddydweithiau gwreiddiol neu’r gwaith llaw cyfoes sydd ar ddangos, a wnewch chi gysylltu ag un o’r rheolwyr trwy’r ddesg groeso ar y llawr gwaelod.

Principality Collectorplan logo

Cynllun Casglu Di-log Principality
Mae Neuadd Dewi Sant yn cynnig Cynllun Casglu Principality, un o fentrau Cyngor Celfyddydau Cymru a noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality – credyd di-log ar unrhyw un eitem dros £55 a arddangosir yn Orielau Cynteddau’r Neuadd.