Mae
gan Neuadd Dewi Sant amrywiaeth o wasanaethau
syn gaffaeliad i gwsmeriaid anabl. Maer
rhain yn cynnwys prisiau tocynnau rhatach i ddefnyddwyr
cadeiriau olwyn ac ar adegau i gwsmeriaid anabl
eraill. Disgrifir ein gwasanaethaun fanylach
isod, ond os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig
a wnewch chi sôn amdanyn nhw wrth staff
y Swyddfa Docynnau pan fyddwch chin codich
tocyn, neu ddod i gysylltiad âr Rheolwr
Tŷ ar Ddyletswydd pan gyrhaeddwch chi a
byddwn yn falch o fod o help.
Cyfleusterau
ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn gan gynnwys ramp
ir cyntedd, lifft gyda botymau isel, lloriau gwastad
a chyfleusterau tai bach. Caiff defnyddwyr cadeiriau
olwyn ynghyd ag un cydymaith godi tocynnau i seddi cadw
yng nghefn y stalau am y pris rhataf. Maen bosib
y bydd mynychwyr ag anawsterau cerdded yn cael mai seddi
yn y stalau ydir hawsaf mynd iddyn nhw.
Mae
system is-goch bellach ar gael trwy hyd a lled yr awditoriwm
(ac eithrio Rheng 5). Mae modd defnyddior system
gyda neu heb gymorth clyw. A wnewch chi roi gwybod ir
Swyddfa Docynnau pan fyddwch chin codich
tocynnau y bydd angen i chi ddefnyddior system.
Rhoddir taflen wybodaeth am ei defnyddio i chi yn y digwyddiad.
Fe allwch hi hefyd godi tocynnau dros ffôn destun
MINICOM yn Swyddfa Docynnaur New Theatre ar 029
2087 8881. |
|
|
Mae
tŷ bach
NEILLRYW ar gyfer cwsmeriaid anabl ar gael ar
Lefel 2.
Mae
gwybodaeth am ddigwyddiadau yn Neuadd Dewi Sant ar gael
mewn Braille ac mewn print bras yn Llyfrgell Ganolog
Caerdydd, Sefydliad y Deillion Caerdydd ac or Ddesg
Wybodaeth ar y llawr gwaelod. Fel arall, anfonwch eich
enw ach cyfeiriad at yr Adran Farchnata ac fe ychwanegwn
ni chi at ein rhestr bost.
Mae
croeso i gŵn tywys cysylltwch os gwelwch
yn dda âr Swyddfa Docynnau ar 029 2087
8444 i roi gwybod i ni pryd y byddwch chin
dod.
Caniateir
gollwng teithwyr ar ben uchaf Yr Aes, hanner canllath
or fynedfa flaen. Mae parcio ar gyfer deiliaid
cardiau oren ar gael ar Hills Street, gyferbyn â'r
Swyddfa Bost. |
|