|
|

Neuadd
Dewi Sant fawr ei gwobr ydi Neuadd Gyngerdd a Chynadleddfa Genedlaethol
Cymru ac mae'n eiddo Dinas a Sir Caerdydd sydd yn ei rheoli.
Mae'r adeilad yn amlddefnydd dros ben a chanddo gyfleusterau
technegol sy'n addas ar gyfer cynadleddau mawr, cyfarfodydd
cyffredinol blynyddol a chyflwyniadau corfforaethol neu, ag
amrywiaeth o fannau cyfarfod ar gael,
gyfarfodydd
llai, cynadleddau
i'r wasg, seminarau hyfforddi a chiniawau canol dydd preifat.
Awditoriwm
Mae'r awditoriwm gweledol drawiadol wedi cael ei osod o ran
acwsteg y 6ed gorau yn y byd ac mae'n wifrog ar gyfer darlledu
yn barhaol. Â'i gynllun anghyffredin o rengoedd cydgysylltiol
sy'n lapio, mae'n cynnig seddi cyfforddus ar gyfer hyd at 2,000
o bobol. Yn ogystal â digwyddiadau adloniant mawr - gan gynnwys
Canwr y Byd Caerdydd a Proms Cymru - mae wedi llywyddu'n llwyddiannus
gynadleddau gwleidyddol, Cyfarfodydd Blynyddol cyfranddeiliaid
a phartïon corfforaethol trawiadol. Ers ei agoriad brenhinol
ym 1983, croesawodd gynrychiolwyr o gyrff megis Undeb Cenedlaethol
yr Athrawon, Cymdeithas Siambrau Masnach Prydain a'r Sefydliad
Yswiriant Siartredig.
Man Dangos
Pa un a oes arnoch chi angen man mawr ynteu fach i drosglwyddo'ch
neges, fe all Neuadd Dewi Sant gwrdd â'ch anghenion chi gydag
amrywiaeth o fannau dangos ac arddangos sydd ar gael ar eich
cyfer chi.
Ystafell Llanelwy a'r Ystafell Werdd
Mae'r ddwy ystafell gyfarfod braf yma sy'n cael digon o awyr
yn cael eu defnyddio'n aml fel ystafelloedd cynadleddau i'r
wasg, crèche neu swyddfa trefnydd. Maen nhw hefyd i'r dim ar
gyfer croeso, ciniawau a chroesogarwch corfforaethol.
Ystafell Is-iarll Tonypandy
Ystafell neilltuol â'i man croeso ei hun a chyfleusterau en-suite
sy'n arbennig o addas ar gyfer croeso VIP, ciniawau bychain
ganol dydd a gyda'r hwyr, cyfweliadau preifat a chyfarfodydd
pwyllgorau.
Cynteddau
Mae'r cynteddau a'r mannau bar eang yn ddigon hyblyg i'w defnyddio
ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol, croeso, partïon ac adloniant
anffurfiol. Mae arddangosfeydd masnach a chrefft (hyd at 4,500
troedfedd sgwâr) hefyd yn tycio yn y mannau yma. Mae balconïau
yn rhoi golygfeydd o'r ddinas ar sawl lefel.
Ymwelwyr Anabl
Buom yn fawr ein gofal yn sicrhau hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr
anabl. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys rampiau, drysau awtomatig,
lifft gyda phanel rheoli isel a phlatiau Braille a chyhoeddiadau
llais, system is-goch a llinell deleffon minicom ar gyfer cwsmeriaid
sy'n drwm eu clyw, mannau ar gyfer cadeiriau olwyn yn yr awditoriwm
a thai bach hygyrch.
Cyfleusterau
4 Bar
Bwyty (lle i 150)
2 Lolfa gyntedd
fawr
2 Oriel gelf
Gwasanaethau Arlwyo
Pedwar maes parcio
NCP gerllaw
Llawr dawns cludadwy
Siop anrhegion
fewnol
Man gollwng ar
gyfer coetshis
| Nifer
y lleoedd |
Theatr |
Ystafell
Ddosbarth |
Ystafell
Bwrdd |
Croeso |
Gwledd |
Dawns-ginio |
| Awditorium |
1500 |
- |
- |
- |
400 |
- |
| Ystafell
Llanelwy |
75 |
35 |
30 |
100 |
60 |
- |
| Ystafell
Werdd |
60 |
30 |
30 |
85 |
- |
- |
| Ystafell
Is-iarll Tonypandy |
20 |
12 |
14 |
20 |
14 |
- |
| Bwyty'r
Sêr |
100 |
50 |
30 |
155 |
130 |
130 |
| Lefel
2 |
- |
- |
- |
200 |
- |
150 |
| Ystafell
Ivor Novello |
30 |
- |
12 |
40 |
- |
- |
| Lefel
3 |
250 |
- |
- |
400 |
300 |
250 |
| Lefel
4 |
- |
- |
- |
100 |
- |
- |
| Lefel
5 |
120 |
50 |
35 |
300 |
150 |
150 |
| 14
o ystafelloedd ychwanegol ar gyfer 5 - 25 o bobol |
Awditoriwm
Cyfleusterau cynadledda cyflawn
Cyfleusterau goleuo cynhwysfawr
System PA gyda desg gymysgu 24/8/2. System PA gludadwy ar
gael
Man llwyfan mawr ac altradwy
Cyflawn gyfarparedig ac â cheblau ar gyfer recordio teledu
a radio
Cyfleusterau recordio ac ailchwarae
Sgrîn sinema o lawn faint
Amryfal sgriniau taflunio cludadwy a thaflunyddion fideo ar
gael
System gwrando gwell is-goch
Cyfleusterau technegol
Taflunyddion ffilmiau 35mm a 16mm gyda systemau Dolby a chwmpasol
Taflunyddion sleidiau 35mm
Recordyddion fideo:
VHS, DVD
Cymysgydd fideo
Taflunydd fideo
Cyflwyniad PowerPoint
Camera lliw
Setiau teledu lliw
Uwchdaflunyddion
Sgriniau cludadwy
Cyfleusterau ailchwarae a recordio tâp, CD a minidisg
Cyfleusterau eraill ar gael o rybuddio ymlaen llaw |
|
|