Neuadd
Dewi Sant,
Yr Aes,
Caerdydd CF10 1AH
Swyddfa Docynnau
029 2087 8444
(Ar agor 10.00am tan 6.00pm, neu tan 8.00pm pan
fydd yna berfformiad gydar hwyr)
Y Dderbynfa
029 2087 8500
Ffacs
029 2087 8599
E-bost
st.davidshallreception
@cardiff.gov.uk |
|
 
Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi
Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chynadleddfa
Genedlaethol Cymru. Âi dewis
eang o adloniant byw, arddangosfeydd
am ddim, cynadleddau,
gweithdai cymryd rhan, dau
far a dewis o lefydd i fwyta, staff parod eu
cymwynas ac amgylchedd hamddenol, mae Neuadd Dewi
Sant yn adeilad iw fwynhau liw dydd a chydar
hwyr trwyr flwyddyn gron.
Cartref Proms
Cymru bob blwyddyn, y Gyfres Cyngherddau
Cerddorfaol o safon byd syn rhoi llwyfan i
gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaenar
byd ar gystadleuaeth enwog Canwr y Byd Caerdydd
bob dwy flynedd, mae Neuadd Dewi Sant yn cyflwyno
hylltod o adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, cân
werin, jazz, rhythm ar felan, comedi, sioeau
plant, cyngherddau awr ginio, dramâu cerdd,
adloniant ysgafn, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilmiau
a cherddoriaeth glasurol.
Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na dim
ond neuadd gyngerdd, gyda chynteddau eang, barrau
lolfa a bwyty, mae hefyd yn lle i gyfarfod am
goffi, cinio neu bryd o fwyd i ddathlu. A bwriwch
bod yna arddangosfeydd
rheolaidd a chynadleddau
cwmnïau blynyddol, ac mae yna rywbeth yn mynd
ymlaen bron bob dydd or flwyddyn.
A pheidiwch ag anghofio mynd â rhywbeth i
gofio adref gyda chi or amrywiaeth eang o
anrhegion a chardiau Cymreig sydd ar werth yn ein
siop yn y cyntedd.
Yn unol â Pholisi Cyngor Caerdydd bydd Neuadd Dewi Sant yn oedfan Dim Ysmygu o Ebrill 1 2005 ymlaen.
Gwybodaeth
gefndir yn fyr
Ir penseiri Partneriaid Seymour Harris, roedd
cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anarferol,
os nad unigryw, am sawl rheswm. Yr her bennaf oedd
sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000
o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu
hyn fwyfwy, roedd rhaid gwasgur adeilad i
ganolfan siopa oedd eisoes wedii chynllunio
ac ar hanner ei chodi. Y canlyniad oedd, o fewn
pum mlynedd anhygoel or syniad ir cwblhau,
codi neuadd gyngerdd drawiadol â 2,000 o seddi,
a chanddi gellid dadlau yr acwsteg
orau yn Ewrop yn union uwchben marchnadfa Dewi Sant.
Yn ogystal, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd
gwisgo hollgynhwysfawr, ystafelloedd
cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, dau
le bwyta, arddangosfeydd
ar dri llawr, man croeso eang a siop.
Gwelodd hydref 1982 ddyddiau cyffrous yn adeilad
newydd Neuadd Dewi Sant. Fe fu ir diwrnod
agored arbennig ar 30 o Awst ddenu 21,000
o bobol; naw niwrnod yn ddiweddarach daeth y cyngerdd
cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan y Côr
Polyffonig. Erbyn ir Fam Frenhines berfformior
agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, roedd Neuadd
Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig
y Brifddinas. Ys dywedodd ei Mawrhydi, This
exciting development will add greatly to the quality
of life for the city of Cardiff and the people of
the Principality.
Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant,
chwaraeon, llefydd bwyta, cyfleusterau hamdden,
llefydd o ddiddordeb i ymweld â nhw a digwyddiadau
o bwys yn rheolaidd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr
bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod
yn oedfan flaenllaw yn natblygiad parhaol a diwylliannol
Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd
Ewrop.
|
|
Cyngor Dinas Caerdydd sy'n berchen ar Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru a sy'n ei rheoli ac yn ei hariannu. Noddir Neuadd Dewi Sant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. |
|
|