St Davids Hall Cardiff
  • St Davids Hall Cardiff
Comedy Exhibitions Food and Drink Orchestral Concert Series Roots Unearthed

Gorffennaf 2010

 
 
 
 
1 Gorffennaf 2010
2 Gorffennaf 2010
3 Gorffennaf 2010
4 Gorffennaf 2010
5 Gorffennaf 2010
6 Gorffennaf 2010
7 Gorffennaf 2010
8 Gorffennaf 2010
9 Gorffennaf 2010
10 Gorffennaf 2010
11 Gorffennaf 2010
12 Gorffennaf 2010
13 Gorffennaf 2010
14 Gorffennaf 2010
15 Gorffennaf 2010
16 Gorffennaf 2010
17 Gorffennaf 2010
18 Gorffennaf 2010
19 Gorffennaf 2010
20 Gorffennaf 2010
21 Gorffennaf 2010
22 Gorffennaf 2010
23 Gorffennaf 2010
24 Gorffennaf 2010
25 Gorffennaf 2010
26 Gorffennaf 2010
27 Gorffennaf 2010
28 Gorffennaf 2010
29 Gorffennaf 2010
30 Gorffennaf 2010

30 Gorffennaf 2010

Music Mix: Cardiff

7:00 PM

Deugain o bobol ifanc yn ffurfio cerddorfa roc eclectig, yn lliaws o gitarau, drymiau, rhai offerynnau cerddorfaol, meistri’r ddefod a llais. Yn perfformio fel un ensemble, yn ogystal â bandiau ac unawdwyr mae’r cerddorion ifainc yn cyflwyno ciplun cerddorol o’u dinas a sut maen nhw’n gweld ei phroblemau a’i photensial.

Music Mix: Cardiff Rhagor o Wybodaeth
31 Gorffennaf 2010
Allwedd y Calendr

Dim digwyddiad

Cliciwch i weld y digwyddiad

Bwyd a Diod

Mae gan Neuadd Dewi Sant ddau far ar Lefelau 3 a 5, Bwyty’r Sêr a’r Oriel ar Lefel 1 ac Art Café Celf sydd newydd ei ailwampio.

Mae melysion, diodydd ysgafn a Hufen Iâ ar gael ar Lefel 2 yn ystod amrywiaeth o gyngherddau a digwyddiadau.


Art Cafe CelfArt Café Celf

Rhowch dro am y caffi braf tymherus yma ar Lefel 4 a chael blas ar fwyd ardderchog wedi’i gynhyrchu’n lleol, gan gynnwys dewis helaeth o frechdanau, baguettes, teisennau a diodydd poeth.
Dyma le braf a lliwgar i laesu dwylo, ymhell o ffair a ffwndwr canol y ddinas islaw.


Oriau agor
Llun – Sadwrn deg o’r gloch y bore tan dri y prynhawn
Am ragor o fanylion neu unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r swyddfa Arlwyo ar:029 2087 8453

 

Bwyty’r Sêr a’r Oriel

Mae gan Fwyty’r Sêr bopeth sydd ei angen arnoch i gael pryd o fwyd blasus, ganol dydd neu gyda’r hwyr; bwydlen gynhwysfawr, awyrgylch cyfeillgar, gwasanaeth ar y gair, amgylchfyd cyfforddus a bellach yn rhoi lle amlwg i waith artistiaid lleol ar barwydydd y bwyty.

Gewch chi ddewis o amrywiaeth eang ganol dydd sydd wedi’i llunio i fod at ddant pawb, gan gynnwys dewis o’r Cownter Cerfdy a bwydlen ‘Tameidiau Bach’.

Mae’r fwydlen odidog gyda’r hwyr, yn fwydydd Cymreig ac Ewropeaidd, ar gael ym Mwyty’r Sêr o hanner awr wedi pump ymlaen pan fydd y symbol agored i’w weld yn y dyddiadur.

 

Oriau agor

Llun – Sadwrn o ganol dydd tan hanner awr wedi dau ac o hanner awr wedi pump ymlaen pan fydd perfformiad gyda’r hwyr (pump o’r gloch pan fydd y perfformiad yn cychwyn am saith o’r gloch) – bwriwch olwg ar dudalennau’r digwyddiadau unigol i weld a ydi’r bwyty ar agor cyn neu ar ôl y cyngerdd ar unrhyw ddyddiad y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Am ragor o fanylion neu unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r swyddfa Arlwyo ar 029 2087 8453 neu Fwyty’r Sêr ar 029 2087 8463.


Celebrity Restaurant

Restaurant

Barrau Lefelau 3 a 5

Gewch chi osgoi’r ciwiau yn ystod yr egwyl ac archebu eich diodydd egwyl cyn i’r cyngerdd ddechrau. Mae’r ddau far yn cynnig y gwasanaeth archebu diodydd egwyl yma yn ystod digwyddiadau Lefel 3 megis y nosweithiau jazz misol a’r cyfleusterau sgrin fawr yn ystod gemau rygbi rhyngwladol.
Am ragor o fanylion neu unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r swyddfa Arlwyo ar 029 2087 8450.


Derbyniadau

Mae’r cyfleusterau bwyd a diod yn Neuadd Dewi Sant yn cael eu gweithio gan Cardiff Catering, gwasanaeth arlwyo mewnol i holl oedfannau’r cyngor, gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Neuadd y Sir, The Mansion House a Neuadd Dewi Sant. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth hyblyg ac amlochrog iawn, sy’n gallu cynnig derbyniadau o bob maint a math, gan gynnwys darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ofynion bwyd.

O ginio bys a bawd syml ganol dydd ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol i wasanaeth arian llawn ar gyfer penaethiaid gwladol i fwydlenni thema i gyd-fynd â’ch anghenion corfforaethol: mae gan Cardiff Catering brofiad cynhwysfawr o bob mathau o ofynion.