9 Chwefror 2012
Tirweddau Sibelius BBC NOW
7:30 PM
Tapiola, duw coedwigoedd pîn y Ffindir, a ysbrydolodd waith mwyaf elfennol Sibelius, llawn arswyd distaw’r goedwig, ac sy’n dod i ben yn un o’r stormydd ffyrnicaf mewn cerddoriaeth drwyddi draw – byddwch wedi dychryn ar eich hyd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Pahlawan The Musical
8:00 PM
Gŵyl Amrywiaeth Maleisia Gwroldeb, anrhydedd, teyrngarwch a chyfiawnder. Hanes brawdoliaeth, cariad a brad, yn digwydd ym mlynyddoedd machlud Swltaniaeth Malacca..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Cyngerdd Awr Ginio-Jeremy Huw Williams
1:00 PM
Mae’r bariton o Gymro Jeremy Huw Williams wedi perfformio mewn operâu a datganiadau drwy’r byd yn grwn ac mae’n canu prif rannau’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn bleidiwr cerddoriaeth gyfoes ac yn dal i gomisiynu gweithiau newydd a rhoi ei première i gerddoriaeth gan amryw byd o gyfansoddwyr cyfoes..
Rhagor o WybodaethArchebu'n AwrThe Rat Pack yn ei ôl i Gariadon ym Mhobman
8:00 PM
Gadewch i Frank, Sammy a Dean fynd â chi ar daith i’r Sands Hotel yn Las Vegas, lle gyda’i gilydd fel triawd y perfformion nhw nifer o ganeuon clasurol gan gynnwys I Got You Under My Skin, Lady Is A Tramp..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
LITTLE BIG CLUB YN FYW MEWN CYNGERDD
12.30pm & 3.30pm Mae The Little Big Club yn Fyw mewn Cyngerdd yn cyflwyno i chi gymeriadau cyn oed ysgol byd-enwog, gyda’i gilydd ac yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf mewn un sioe benigamp a dyma’r union ffordd i gadw’r cryts yn ddiddig yn ystod Hanner Tymor..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Rumours of Fleetwood Mac
8:00 PM
Dan berfformio hits clasurol, mewn hylltod o arddulliau a chymysgedd o genres cerddorol, mae Rumours Of Fleetwood Mac wedi perffeithio treftadaeth clasuron y felan, roc a pop a roes i Fleetwood Mac y safle eiconig yn y diwydiant cerdd sydd ganddyn nhw heddiw..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Russian State Philharmonic Orchestra
7:30 PM
Ffidil Brahms a Phedwaredd Symffoni Tchaikovsky ill dau. Gweithiodd Brahms fel lladd nadroedd i wireddu uchelgais ers tro sef cyfansoddi Concerto Ffidil ac ymateb angerddol oedd Pedwaredd Symffoni Tchaikovsky i un o’r argyfyngau personol mwyaf a ddaeth i’w ran erioed.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Killer Queen
7:30 PM
Mae Killer Queen yn gwefreiddio cynulleidfaoedd mewn tai dan eu sang ym mhedwar ban byd, yn ail-greu rhyfeddod egnïol a grymus, Queen yn fyw.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Lee Mead-The Love Tour
5:00 PM
Daeth Lee Mead yn Seren yn y West End yn chwarae’r brif ran yn Joseph wedi ennill ar y rhaglen deledu ‘Any Dream Will Do’ a dyma fe yn ei ôl gyda’i fand i berfformio cyngerdd byw o hits o’i albwm newydd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Gwrando’r Gwreiddiau-Jacqui McShee's Pentangle
8:00 PM
Mae Jacqui McShee a Pentangle yn enwau chwedlonol. Ond bu un peth yn ddigyfnewid – mae llais dihafal Jacqui McShee yn yr amlwg bob gafael..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Chris Addison
8:00 PM
Yn syth o The Thick of It, Mock The Week, Have I Got News For You a’i daith yn 2010 a werthodd bob tocyn, bellach mae Chris Addison, y dyn roes y ‘Chris Addison’ yn “I see Chris Addison is touring again,” yn awr, ar daith unwaith eto!
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd Favourite Classics
7:30 PM
Mae tymor Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn mynd rhagddo â rhaglen o hoff glasuron yn cychwyn ag un o agorawdau mwyaf pefriol Rossini, The Thieving Magpie. Siawns nad ydi Wythfed Symffoni Dvorák yn un o’r darnau mwyaf dyrchafol a sgrifennwyd erioed, wedi’i seilio ar ganu gwerin Bohemia roedd Dvorák yn dotio ato gymaint.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr9 Chwefror 2012
9 Chwefror 2012
Anton & Erin Let's Do It
7:30 PM
Yn dilyn taith a werthodd bob sedd drwy Brydain yn 2011, dyma ei hoff gwpwl dawnsio Anton du Beke ac Erin Boag, yn eu holau a sioe newydd ddigon o ryfeddod i’w canlyn..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
Os oes gennych ofynion eistedd penodol rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n codi tocynnau.
Mae cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cynnwys lloriau gwastad, cyfleusterau tai bach (yn y Bwyty ac ar Lefelau 2,3,4 a 5) a chownteri lefel isel yn y Swyddfa Docynnau, yr Ystafell Gotiau a Bar Lefel 3. Caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith gadw seddi yng nghefn y stalau am bris y tocyn rhataf sydd ar gael, a bwrw’u bod ar gael, i’r perfformiad. Efallai y caiff cwsmeriaid a chanddyn nhw anawsterau cerdded mai seddi’r stalau ydi’r hawsaf i fynd iddyn nhw.
Mae system is-goch ar gael yn yr awditoriwm (ac eithrio Rheng 5) a gellir ei defnyddio gyda chymorth clyw neu hebddo. Cofiwch roi gwybod i staff y Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n codi tocynnau a rhown gyfarwyddiadau defnyddio llawn pan gyrhaeddwch chi ar gyfer y digwyddiad.
Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau ar gael mewn fformatau Braille a phrint bras o’r ddesg ar lawr gwaelod y Neuadd, Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Sefydliad y Deillion Caerdydd. I gael eich copi eich hun rhowch ganiad i’r Adran Farchnata ar 029 2087 8542.
Mae croeso i gŵn tywys. Cofiwch roi gwybod i’r Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n codi tocynnau.