St Davids Hall Cardiff
  • Born This Way: A Lady Gaga Experience
  • Arcomis International Brass Event
Comedy Orchestral Concert Series Just Kidding Roots Brass Event

Mehefin 2013

 
 
 
 
 
 
1 Mehefin 2013
2 Mehefin 2013
3 Mehefin 2013
4 Mehefin 2013
5 Mehefin 2013
6 Mehefin 2013
7 Mehefin 2013
8 Mehefin 2013
9 Mehefin 2013
10 Mehefin 2013
11 Mehefin 2013
12 Mehefin 2013
13 Mehefin 2013
14 Mehefin 2013
15 Mehefin 2013
16 Mehefin 2013
17 Mehefin 2013
18 Mehefin 2013
19 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

BBC Canwr y Byd Caerdydd

7:30 PM

Cyngerdd Tri

BBC Canwr y Byd CaerdyddRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
20 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

BBC Canwr y Byd Caerdydd

7:30 PM

Cyngerdd Pedward

BBC Canwr y Byd CaerdyddRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
21 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

BBC Canwr y Byd Caerdydd-Gwobr Datganiad Y Rownd Derfynol

7:30 PM

Bydd datganiadau'r Wobr Datganiad yn cael eu cynnal yn lleoliad newydd cyffrous Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Sul 16 Mehefin-Mawrth 18 Mehefin POB TOCYN WEDI'I WERTHU Y Rownd Derfynol St David's Hall Nos Wener 21 Mehefin..

BBC Canwr y Byd Caerdydd-Gwobr Datganiad Y Rownd DerfynolRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
22 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

BBC Canwr y Byd Caerdydd Dosbarthiadau Meistre

Sadwrn 22 Mehefin 11am & 3pm Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Neuadd Dora Stoutzker Gyda chantorion y gystadleuaeth

BBC Canwr y Byd Caerdydd Dosbarthiadau MeistreRhagor o WybodaethArchebu'n Awr

BBC Cardiff Singer of the World Master Classes

Saturday 22 June 11am & 3pm Royal Welsh College of Music & Drama Dora Stoutzker Hall With competition singers.

BBC Cardiff Singer of the World Master ClassesRhagor o WybodaethArchebu'n Awr

BBC Canwr y Byd Caerdydd Dosbarthiadau Meistre

Sadwrn 22 Mehefin 12:30pm & 4pm Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Theatr Richard Burton

BBC Canwr y Byd Caerdydd Dosbarthiadau MeistreRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
23 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

Rownd Derfynol BBC Canwr Y Byd Caerdydd 2013

6:45 PM

Rownd Derfynol BBC Canwr Y Byd Caerdydd

Rownd Derfynol BBC Canwr Y Byd Caerdydd 2013Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
24 Mehefin 2013
25 Mehefin 2013
26 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru

7:30 PM

O’r cychwyn cyntaf, drwy wefr Nimrod hyd at ei finale gorfoleddus, mae i Amrywiadau Enigma Elgar eu lle arbennig yng nghalon pob cerddgarwr. Fe’u clywir ochr yn ochr â concerto soddgrwth y cyfansoddwr..

Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
27 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

George Thorogood & The Destroyers

7:30 PM

Taith y Deugeinmlwyddiant

George Thorogood & The Destroyers Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
28 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

7:30 PM

Pumed Symffoni Mahler..

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
29 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

Colm Wilkinson-'Bring Him Home Tour'

7:30 PM

Mae’r Gwyddel Colm Wilkinson yn fwyaf adnabyddus fel y Jean Valjean a’r Phantom gwreiddiol, rolau a greodd ac y mae’n eu chwarae mewn cynyrchiadau o Les Misérables a The Phantom of the Opera yn Llundain, Toronto ac Efrog Newydd..

Colm Wilkinson-'Bring Him Home Tour' Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
30 Mehefin 2013
Allwedd y Calendr

Dim digwyddiad

Cliciwch i weld y digwyddiad

Am y Neuadd

 

Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru. Mae yma amrywiaeth eang o adloniant byw, arddangosfeydd am ddim, cynadleddau, gweithdai cymryd rhan, dau far ac amrywiaeth o lefydd i fwyta, staff cymwynasgar ac amgylchfyd hamddenol ac mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau liw dydd a chyda’r nos trwy’r flwyddyn gron.

Neuadd Dewi Sant ydi cartref Proms Cymru Caerdydd, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol sydd gyda goreuon y byd ac sy’n rhoi llwyfan i gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaenllaw’r byd, a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob yn ddwy flynedd, ac mae’n cyflwyno lliaws o adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, canu gwerin, jazz, rhythm a’r felan, comedi, sioeau plant, cyngherddau awr ginio, dramâu cerdd, adloniant ysgafn, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilmiau a cherddoriaeth glasurol.

Ond mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na dim ond neuadd gyngerdd - a chanddi gynteddau eang, barrau lolfa a bwyty mae hefyd yn lle i gyfarfod am goffi, cinio neu bryd o fwyd dathlu. At hynny mae yma arddangosfeydd rheolaidd a chynadleddau cwmni blynyddol, ac mae rhywbeth ar fynd agos i bob diwrnod trwy’r flwyddyn gron.

 

CaerdyddMae Neuadd Dewi Sant yn eiddo, dan reolaeth a than nawdd Cyngor Sir Caerdydd gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Hanes Byr

 

I’r penseiri Seymour Harris Partnership roedd cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anghyffredin, os nad heb ei ail, am sawl rheswm. Y bennaf her oedd sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000 o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu hyn ymhellach roedd rhaid gwasgu’r adeilad i ganolfan siopa oedd eisoes wedi’i chynllunio ac ar hanner ei chodi.

Y canlyniad oedd, choeliech chi fawr o fewn pum mlynedd o synio amdani hyd at ei chwblhau, codi neuadd gyngerdd drawiadol â lle i 2,000 a chanddi, gellid dadlau, yr acwsteg orau yn Ewrop, yn union dros ben rhodfa siopa Canolfan Dewi Sant. At hynny, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd gwisgo cynhwysfawr, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, dau le i fwyta, arddangosfeydd ar dri llawr, a man croeso eang.

Gwelodd hydref 1982 ddyddiau cynhyrfus yn y Neuadd Dewi Sant newydd. Denodd y ‘diwrnod agored’ arbennig ar 30 Awst 1982 21,000 o bobol; naw niwrnod yn ddiweddarach daeth y cyngerdd cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan Gôr Polyffonig Caerdydd. Erbyn i’r Fam Frenhines berfformio’r agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, roedd Neuadd Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig y Brifddinas. Ys dywedodd Ei Mawrhydi, ‘This exciting development will add greatly to the quality of life for the city of Cardiff and the people of the Principality.’

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant, chwaraeon, llefydd i fwyta, cyfleusterau hamdden, llefydd o ddiddordeb i roi tro amdanyn nhw a phennaf ddigwyddiadau yn rheolaidd, gyda denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod yn un o’r oedfannau blaenllaw yn natblygiad diwylliannol a pharhaol Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd yn Ewrop.