St Davids Hall Cardiff
  • The Three Mediums
  • The Sopranos
  • Rhythm of The Dance
Comedy Exhibitions Food and Drink Orchestral Concert Series Welsh Proms

Mawrth 2010

 
1 Mawrth 2010
2 Mawrth 2010
3 Mawrth 2010
4 Mawrth 2010
5 Mawrth 2010
6 Mawrth 2010
7 Mawrth 2010
8 Mawrth 2010
9 Mawrth 2010
10 Mawrth 2010
11 Mawrth 2010
12 Mawrth 2010
13 Mawrth 2010
14 Mawrth 2010
15 Mawrth 2010
16 Mawrth 2010
17 Mawrth 2010
18 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Ysgol Howell’s yn Dathlu!

7:30 PM

Mae Ysgol Howell’s, Llandaf wrth ei bodd o fod yn dathlu ei Phen-blwydd yn Gant a Hanner â Chyngerdd Mawreddog arbennig.

Ysgol Howell’s yn Dathlu!Rhagor o Wybodaeth
19 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Cardiff University Symphony Orchestra and Choir Concert

7:30 PM

The University Choir and Orchestra combine to perform this varied programme.

Cardiff University Symphony Orchestra and Choir ConcertRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
20 Mawrth 2010
21 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Rownd Derfynol Pencampwriaeth Dawnsio Stryd Rhwng Uwchysgolion Cymru

10:00 AM

2nd Welsh Inter - High School Street Dance Championship

Rownd Derfynol Pencampwriaeth Dawnsio Stryd Rhwng Uwchysgolion CymruRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
22 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

The Sopranos

7:30 PM

Direct from a sell-out tour.

The SopranosRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
23 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Cyngerdd Awr Ginio

1:00 PM

Cardif Metropolitan Cathedral of St David's

Cyngerdd Awr GinioRhagor o WybodaethArchebu'n Awr

Blas* A Taste of the fresh Welsh Sound

7:30 PM

The newest sounds on Wales' music scene

Blas* A Taste of the fresh Welsh SoundRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
24 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

The Charley Boorman Show 24/03/2010

7:30 PM

Charley Boorman

The Charley Boorman Show 24/03/2010Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
25 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

The Three Mediums

7:30 PM

Colin Fry, Derek Acorah, T J Higgs

The Three MediumsRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
26 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Chris Rea WEDI GWERTHU ALLAN

7:00 PM

Chris Rea

Chris Rea WEDI GWERTHU ALLANRhagor o Wybodaeth
27 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Cymanfa Dynion Caerdydd

9:30 AM

A day of Christian Worship

Cymanfa Dynion CaerdyddRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
28 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

Showtime 2010

2:30 PM

Cyflwynir gan Mandy & Shirley Morris School of Dance

Showtime 2010Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
29 Mawrth 2010
30 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

The Little Big Club Live In Concert

Bags of fun for little ones

The Little Big Club Live In ConcertRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
31 Mawrth 2010

18 Mawrth 2010

The Little Big Club Live In Concert

Bags of fun for little ones

The Little Big Club Live In ConcertRhagor o WybodaethArchebu'n Awr
Allwedd y Calendr

Dim digwyddiad

Cliciwch i weld y digwyddiad

Am y Neuadd

 

Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru. Mae yma amrywiaeth eang o adloniant byw, arddangosfeydd am ddim, cynadleddau, gweithdai cymryd rhan, dau far ac amrywiaeth o lefydd i fwyta, staff cymwynasgar ac amgylchfyd hamddenol ac mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau liw dydd a chyda’r nos trwy’r flwyddyn gron.

Neuadd Dewi Sant ydi cartref Proms Cymru Caerdydd, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol sydd gyda goreuon y byd ac sy’n rhoi llwyfan i gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaenllaw’r byd, a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob yn ddwy flynedd, ac mae’n cyflwyno lliaws o adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, canu gwerin, jazz, rhythm a’r felan, comedi, sioeau plant, cyngherddau awr ginio, dramâu cerdd, adloniant ysgafn, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilmiau a cherddoriaeth glasurol.

Ond mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na dim ond neuadd gyngerdd - a chanddi gynteddau eang, barrau lolfa a bwyty mae hefyd yn lle i gyfarfod am goffi, cinio neu bryd o fwyd dathlu. At hynny mae yma arddangosfeydd rheolaidd a chynadleddau cwmni blynyddol, ac mae rhywbeth ar fynd agos i bob diwrnod trwy’r flwyddyn gron.

 

CaerdyddMae Neuadd Dewi Sant yn eiddo, dan reolaeth a than nawdd Cyngor Sir Caerdydd gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Hanes Byr

 

I’r penseiri Seymour Harris Partnership roedd cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anghyffredin, os nad heb ei ail, am sawl rheswm. Y bennaf her oedd sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000 o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu hyn ymhellach roedd rhaid gwasgu’r adeilad i ganolfan siopa oedd eisoes wedi’i chynllunio ac ar hanner ei chodi.

Y canlyniad oedd, choeliech chi fawr o fewn pum mlynedd o synio amdani hyd at ei chwblhau, codi neuadd gyngerdd drawiadol â lle i 2,000 a chanddi, gellid dadlau, yr acwsteg orau yn Ewrop, yn union dros ben rhodfa siopa Canolfan Dewi Sant. At hynny, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd gwisgo cynhwysfawr, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, dau le i fwyta, arddangosfeydd ar dri llawr, a man croeso eang.

Gwelodd hydref 1982 ddyddiau cynhyrfus yn y Neuadd Dewi Sant newydd. Denodd y ‘diwrnod agored’ arbennig ar 30 Awst 1982 21,000 o bobol; naw niwrnod yn ddiweddarach daeth y cyngerdd cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan Gôr Polyffonig Caerdydd. Erbyn i’r Fam Frenhines berfformio’r agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, roedd Neuadd Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig y Brifddinas. Ys dywedodd Ei Mawrhydi, ‘This exciting development will add greatly to the quality of life for the city of Cardiff and the people of the Principality.’

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant, chwaraeon, llefydd i fwyta, cyfleusterau hamdden, llefydd o ddiddordeb i roi tro amdanyn nhw a phennaf ddigwyddiadau yn rheolaidd, gyda denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn dal i fod yn un o’r oedfannau blaenllaw yn natblygiad diwylliannol a pharhaol Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf cosmopolitanaidd yn Ewrop.