Show me Chris and Pui
Sad 9 Hyd at 12:00 AM
Mae arnom ni eisiau iddyn nhw chwerthin
Mae arnom ni eisiau iddyn nhw ganu
Mae arnom ni eisiau iddyn nhw gael hwyl!
Ac mae arnom ni eisiau i chi gael blas ar ei wylio’n digwydd pan ddôn nhw i weld un o’n digwyddiadau Hwyl Iau gwych.
Does yna ddim byd tebyg i berfformiad byw i ymestyn dychymyg plantos ac mae’r sioeau yn y gyfres Hwyl Iau wedi’u llunio i’r dim i blant gael blas arnyn nhw. Mae yma wisgoedd lliwgar, straeon bywiog a hylltod o gyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan a chaiff y teulu i gyd fod yn rhan o’r hwyl.
Mae yna fodelu balŵns a pheintio wynebau ar fynd yn y cynteddau cyn pob sioe ac ar ei hôl hi felly allwch chi ddechrau cael hwyl yr eiliad y cerddwch chi drwy’r drysau. Cyfleusterau tan gamp i’r teulu i gyd
Mae croeso cynnes i’ch teulu chi yn Neuadd Dewi Sant ac, i wneud eich ymweliad chi’n ddifyrrach fyth, mae gennym gyfleusterau ardderchog sy’n gydnaws â phlant: