30 Gorffennaf 2010
Music Mix: Cardiff
7:00 PM
Deugain o bobol ifanc yn ffurfio cerddorfa roc eclectig, yn lliaws o gitarau, drymiau, rhai offerynnau cerddorfaol, meistri’r ddefod a llais. Yn perfformio fel un ensemble, yn ogystal â bandiau ac unawdwyr mae’r cerddorion ifainc yn cyflwyno ciplun cerddorol o’u dinas a sut maen nhw’n gweld ei phroblemau a’i photensial.
Rhagor o Wybodaeth
Mae Tocynnau Theatr yr un mor hyblyg â thocynnau llyfrau neu recordiau gan fod y derbynwyr yn rhydd i benderfynu pa sioe y maen nhw am ei gweld, a phryd! Mae Tocynnau Theatr ar gael gwerth £1, £5, £10, £20 a £50 a does dim dyddiad terfyn.
Mae modd eu defnyddio nhw ar gyfer unrhyw fath o gynhyrchiad - corwyntoedd o ddramâu cerdd, dramâu sgubol o lwyddiannus, operâu, pantomeimiau, bales clasurol - chi piau dewis.
At hynny, mae dros gant a thrigain o theatrau ledled Prydain gan gynnwys ein New Theatre ni’n hunain, a West End Llundain i gyd, yn derbyn Tocynnau Theatr. Os oes arnoch chi eisiau bod yn wahanol eleni, ‘coronwch ddiwrnod rhywun’ a rhoi Tocynnau Theatr.
Am ragor o wybodaeth rhowch ganiad i’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444.