4 Chwefror 2012
CYNGERDD MAWREDDOG JOHANN STRAUSS
7:30 PM
Waltsiwch yn eich ôl i'r oes o'r blaen i neuaddau dawns pefriol Fienna yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn cymysgedd cyfareddol o gerddoriaeth..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Straight No Chaser
7:30 PM
acappella o ddynion, mae Straight No Chaser yn dipyn o ffenomenon gyda llu o gefnogwyr, dros 20 miliwn wedi edrych ar eu gwaith ar YouTube, ymddangosiadau teledu cenedlaethol a dau albwm..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Cerddorfa Symffoni CBCDC
1:00 PM
Rhaglen lawn egni glasoed a sioe o liwiau cerddorol. Rhydd un o fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, David Doidge, stondin i sgrifennu allweddell pefriol Shostakovich yn y Concerto Piano yma a sgrifennwyd i fab y cyfansoddwr. Mae Young Person’s Guide addysgol Britten yn ein harwain ni drwy deuluoedd y gerddorfa..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
City of London Sinfonia
7:30 PM
Scott of The Antarctic Centenary Concert-Hugh Bonneville-Narrator Yma clywir cerddoriaeth wreiddiol y ffilm ochr yn ochr â Symphony No 7 Antarctica Vaughan Williams sy’n gweu cerddoriaeth o’r ffilm yn dapestri grymus.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Tirweddau Sibelius BBC NOW
7:30 PM
Tapiola, duw coedwigoedd pîn y Ffindir, a ysbrydolodd waith mwyaf elfennol Sibelius, llawn arswyd distaw’r goedwig, ac sy’n dod i ben yn un o’r stormydd ffyrnicaf mewn cerddoriaeth drwyddi draw – byddwch wedi dychryn ar eich hyd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Pahlawan The Musical
8:00 PM
Gŵyl Amrywiaeth Maleisia Gwroldeb, anrhydedd, teyrngarwch a chyfiawnder. Hanes brawdoliaeth, cariad a brad, yn digwydd ym mlynyddoedd machlud Swltaniaeth Malacca..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Cyngerdd Awr Ginio-Jeremy Huw Williams
1:00 PM
Mae’r bariton o Gymro Jeremy Huw Williams wedi perfformio mewn operâu a datganiadau drwy’r byd yn grwn ac mae’n canu prif rannau’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn bleidiwr cerddoriaeth gyfoes ac yn dal i gomisiynu gweithiau newydd a rhoi ei première i gerddoriaeth gan amryw byd o gyfansoddwyr cyfoes..
Rhagor o WybodaethArchebu'n AwrThe Rat Pack yn ei ôl i Gariadon ym Mhobman
8:00 PM
Gadewch i Frank, Sammy a Dean fynd â chi ar daith i’r Sands Hotel yn Las Vegas, lle gyda’i gilydd fel triawd y perfformion nhw nifer o ganeuon clasurol gan gynnwys I Got You Under My Skin, Lady Is A Tramp..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
LITTLE BIG CLUB YN FYW MEWN CYNGERDD
12.30pm & 3.30pm Mae The Little Big Club yn Fyw mewn Cyngerdd yn cyflwyno i chi gymeriadau cyn oed ysgol byd-enwog, gyda’i gilydd ac yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf mewn un sioe benigamp a dyma’r union ffordd i gadw’r cryts yn ddiddig yn ystod Hanner Tymor..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Rumours of Fleetwood Mac
8:00 PM
Dan berfformio hits clasurol, mewn hylltod o arddulliau a chymysgedd o genres cerddorol, mae Rumours Of Fleetwood Mac wedi perffeithio treftadaeth clasuron y felan, roc a pop a roes i Fleetwood Mac y safle eiconig yn y diwydiant cerdd sydd ganddyn nhw heddiw..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Russian State Philharmonic Orchestra
7:30 PM
Ffidil Brahms a Phedwaredd Symffoni Tchaikovsky ill dau. Gweithiodd Brahms fel lladd nadroedd i wireddu uchelgais ers tro sef cyfansoddi Concerto Ffidil ac ymateb angerddol oedd Pedwaredd Symffoni Tchaikovsky i un o’r argyfyngau personol mwyaf a ddaeth i’w ran erioed.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Killer Queen
7:30 PM
Mae Killer Queen yn gwefreiddio cynulleidfaoedd mewn tai dan eu sang ym mhedwar ban byd, yn ail-greu rhyfeddod egnïol a grymus, Queen yn fyw.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Lee Mead-The Love Tour
5:00 PM
Daeth Lee Mead yn Seren yn y West End yn chwarae’r brif ran yn Joseph wedi ennill ar y rhaglen deledu ‘Any Dream Will Do’ a dyma fe yn ei ôl gyda’i fand i berfformio cyngerdd byw o hits o’i albwm newydd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Gwrando’r Gwreiddiau-Jacqui McShee's Pentangle
8:00 PM
Mae Jacqui McShee a Pentangle yn enwau chwedlonol. Ehangodd y grŵp gwreiddiol derfynau canu gwerin yn y 1960au a’r '70au ac ers hynny mae datblygiadau arddull y band a'i amryw aelodau yn dal i dorri tir newydd yn eu cerddora. Ond bu un peth yn ddigyfnewid – mae llais dihafal Jacqui McShee yn yr amlwg bob gafael..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Chris Addison
8:00 PM
Yn syth o The Thick of It, Mock The Week, Have I Got News For You a’i daith yn 2010 a werthodd bob tocyn, bellach mae Chris Addison, y dyn roes y ‘Chris Addison’ yn “I see Chris Addison is touring again,” yn awr, ar daith unwaith eto!
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd Favourite Classics
7:30 PM
Mae tymor Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn mynd rhagddo â rhaglen o hoff glasuron yn cychwyn ag un o agorawdau mwyaf pefriol Rossini, The Thieving Magpie. Siawns nad ydi Wythfed Symffoni Dvorák yn un o’r darnau mwyaf dyrchafol a sgrifennwyd erioed, wedi’i seilio ar ganu gwerin Bohemia roedd Dvorák yn dotio ato gymaint.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr4 Chwefror 2012
4 Chwefror 2012
Anton & Erin Let's Do It
7:30 PM
Anton du Beke and Erin Boag return with a sensational new show. Britain’s favourite dance couple will be joined by singer Lance Ellington, superb guest dancers and a Live Orchestra conducted by Richard Balcombe.
Rhagor o WybodaethArchebu'n AwrCyfleuster ydi Neuadd Dewi Sant a ddarparir gan Gyngor Caerdydd ac y cyfeirir ato o hyn allan fel “Neuadd Dewi Sant”.
Rydym yn gwneud ein gorau glas i ymorol bod yr holl wybodaeth hyrwyddo a gyflenwir yn gywir ond rydym yn argymell eich bod chithau’n ymorol yn briodol am wirio gwybodaeth o’r fath. Mae Neuadd Dewi Sant yn gwadu’n ffurfiol bob atebolrwydd dros unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achosir os bydd y defnyddiwr yn dibynnu ar unrhyw ddatganiad, gwybodaeth neu gyngor sydd yn neunydd print Neuadd Dewi Sant, ar y wefan neu unrhyw ddeunydd hyrwyddo a gynhyrchir gan y corff.
Mae derbyn eich archeb yn creu cytundeb cyfreithiol gyfrwymol rhwng Neuadd Dewi Sant a chi. Rheolir y cytundeb rhwng Neuadd Dewi Sant a chi a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr, a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod i dorri unrhyw ddadleuon.
O roi eich archeb rydych yn gwarantu bod yr holl fanylion a rowch i ni at ddiben codi tocynnau, archebu neu brynu nwyddau neu wasanaethau yn gywir, mai chi piau’r cerdyn credyd neu ddebyd rydych yn ei ddefnyddio a bod yno ddigon o gyllid i ymorol am gost y tocyn neu’r gwasanaeth. Os oes yna unrhyw newidiadau yn y manylion a rowch chi eich cyfrifoldeb chi ydi rhoi gwybod i ni.
Does dim dal y bydd tocynnau bob amser ar gael.
Mae gan staff Neuadd Dewi Sant awdurdod i wrthod gadael i chi fynd i mewn i’r oedfan ac maen nhw’n cadw’r hawl i wneud hynny os ydi’ch ymddygiad chi, yn eu barn ddiamod, cyfryw a’i fod yn debygol o darfu neu aflonyddu ar bobol eraill sy’n dod i’r Neuadd. Ceidw Neuadd Dewi Sant hefyd yr hawl i roi terfyn ar eich caniatâd i fod yn yr adeilad a’ch troi allan.
Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa feddu ar docyn dilys. Ni fydd tocynnau wedi’u newid neu eu difwyno yn ddilys.
Dydi cadarnhad derbyn eich archeb trwy e-bost ddim yn gwarantu gwerthiant y tocyn (achosion rhyngrwyd yn unig).
Cofiwch wirio eich tocynnau gan nad oes bob amser modd cywiro camgymeriadau.
Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl i newid neu amrywio’r perfformiad / digwyddiad oherwydd digwyddiadau neu amgylchiadau’r tu hwnt i’n rheolaeth heb orfod ad-dalu arian na newid tocynnau. Dydi hyn ddim yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gallu gwarantu cwrdd â’ch disgwyliadau personal chi gan berfformiwr neu berfformiad. Mae hyn am fod disgwyliadau personal a beth sydd at ein dant ni yn ddi-ben-draw o amrywiol. At hynny, dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gallu gwarantu na chewch chi mo’ch pechu gan iaith, ymddygiad neu olwg unrhyw berfformiwr. Rydym yn argymell eich bod yn holi yn y Swyddfa Docynnau cyn codi tocyn os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch natur perfformiad. Bydd polisi ad-dalu Neuadd Dewi Sant ar waith.
Mae Neuadd Dewi Sant yn rhoi gwerth ar ymroddiad mynychwyr theatr yn codi tocynnau’n fuan ac mae’n cydnabod bod argyfyngau weithiau’n nadu i bobol ddod. Mae’r ddau wasanaeth sy’n dilyn ar gael:
Ceir ffeirio tocynnau am unrhyw ddigwyddiad arall am yr un pris neu fwy (o dalu’r gwahaniaeth). Rhaid i docynnau ddod i law yn y Swyddfa Docynnau dim hwyrach na 24 awr cyn y perfformiad gwreiddiol. Mae yna dâl o £1.00 per ticket am y gwasanaeth yma. (Gwaetha’r modd, ni ellir ffeirio nac ailwerthu yn Neuadd Dewi Sant docynnau a godir trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC neu asiantaethau allanol).
Fel arall, derbynnir tocynnau i’w cynnig i’w hailwerthu ar yr amod benodol mai tocynnau Neuadd Dewi Sant sydd heb eu gwerthu a werthir gyntaf. Cynigir y gwasanaeth ailwerthu yma ar yr amod eich bod chi’n derbyn na dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn gwarantu y bydd unrhyw docyn a gynigir ar gyfer ei ailwerthu yn cael prynwr newydd. Mae’r gwasanaeth yma ar gael ar yr amod llwyr eich bod yn dychwelyd y tocynnau gwreiddiol yn gyntaf i’r Swyddfa Docynnau a’ch bod yn cytuno ymlaen llaw i dalu cost dros ben o 10% am y gwasanaeth ar werth unrhyw docyn a werthir.
Ar wahân i’r ddau wasanaeth uchod neu os canslir perfformiad, does dim ad-daliadau neu ran ohonyn nhw ar gael ar ôl i chi godi tocyn.
Mae meddu ar docyn dilys yn rhoi hawl i’r deiliad fynd i’r awditoriwm yn union cyn dechrau’r perfformiad ond unwaith y bydd y perfformiad wedi dechrau mae’r canlynol ar waith. Er mwyn peidio â tharfu ar y gynulleidfa a’r perfformwyr, ni chaiff hwyrddyfodiaid fynd i mewn i’r awditoriwm tan yr egwyl. Efallai y bydd modd dilyn y perfformiad ar deledu cylch cyfyng yn y barrau.
Ni chaniateir ar unrhyw gyfrif wneud recordiadau na ffotograffiaeth, gyda neu heb fflach.
Rhaid i chi ddiffodd cyfleuster canu eich ffôn symudol pan fyddwch chi yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Yn yr un modd, rhaid i chi beidio â siarad ar ffôn symudol pan fyddwch chi yn yr awditoriwm neu’n agos ato. Mewn argyfwng gewch chi siarad ar ffôn symudol yn ymyl y Swyddfa Docynnau ond ar wahân i hynny rhaid i chi wneud hynny’r tu allan i’r oedfan.
Dylech ddwyn unrhyw gwynion am y sioe neu’r olygfa o’r seddi i’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn ddi-oed, cyn neu yn ystod y perfformiad.
Ceidw Neuadd Dewi Sant yr hawl iddi hi ei hun neu drydydd person wneud ffilmio a recordio sain cyffredinol yn yr adeilad neu ei gyffiniau. Mae codi tocyn yn golygu bod y deiliad yn cydsynio i gael tynnu ei lun neu recordio ei lais ac i’r defnydd masnachol o ffilm neu recordiad o’r fath heb unrhyw hawl ar daliad. Rhaid i unrhyw ddeiliad tocyn sy’n gwrthwynebu cael tynnu ei lun neu ei recordio roi gwybod i’r Rheolwr ar Ddyletswydd cyn i’r perfformiad ddechrau.
Cynigir GOSTYNGIADAU PLANT i bobol ifanc os ydyn nhw’n dal yn yr ysgol. Ddylech chi ddim tybio bod caffaeledd gostyngiadau plant yn golygu y byddech chi’n cael y sioe’n addas ar gyfer pawb yn y categori yma. Gan fod barnau rhieni/gwarcheidwaid o ran beth sy’n addas ar gyfer ystod oedran neilltuol yn amrywio gryn dipyn, rhaid i chi eich argyhoeddi’ch hun o ran addasrwydd sioe o holi’n gyntaf yn y Swyddfa Docynnau.
Dydi rhai perfformiadau ddim yn addas ar gyfer plant bach iawn (o dan ddwyflwydd). Er eich cysur chi eich hun a chyngherddwyr eraill byddem yn argymell i blant o dan ddwyflwydd beidio â mynd i berfformiadau a hysbysebir ar gyfer grwpiau oedran penodol.
Mae arweinwyr grwpiau ieuenctid (gan gynnwys partïon ysgol) yn gyfrifol am ymddygiad eu parti. Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oruchwylio pobol ifanc yn eich gofal chi. Rhaid i chi ymorol bod digon o staff goruchwylio yn dod gyda’r parti. Gofynnir i’r parti neu rai ohonyn nhw adael y theatr os tarfir ar y perfformwyr neu’r gynulleidfa.
Pan fyddwch chi’n archebu gan Neuadd Dewi Sant bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar system gyfrifiadurol y Swyddfa Docynnau. O wneud archeb rydych yn cydsynio i storio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r Deddfau Amddiffyn Data. Gofynnir i chi a geir defnyddio’r wybodaeth yma:
Dywedwch pa ddewisiadau sy’n dderbyniol gennych. Bydd hyn yn ein galluogi ni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn ôl eich dymuniadau chi.
Bydd gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag archebion i gynyrchiadau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei rhannu â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Mae prosesau Neuadd Dewi Sant yn cydymffurfio â Deddf Amddiffyn Data 1998.
Mae ein gwefannau a’n Hysbysebion Swyddogol yn cael eu rheoli, eu cynhyrchu a’u gweithredu gan Neuadd Dewi Sant o’n swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Dydi Neuadd Dewi Sant ddim yn honni bod y deunydd a’r wybodaeth a ddangosir ar ein gwefan neu sydd ar gael drwy ein gwefan yn addas nac ar gael i’w defnyddio mewn Gwledydd eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig.