21 Mai 2012
Philharmonia Orchestra
7:30 PM
Siawns nad Symphonie fantastique Berlioz ydi’r llythyr caru mwyaf angerddol a chyhoeddus a sgrifennwyd erioed. Ysbrydolwyd Berlioz gan yr actores o Saesnes Harriet Smithson, huriodd gerddorfa enfawr a gwneud ei gyflwyniad gerbron Paris gyfan..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2012
Karl Jenkins
7:30 PM
Karl Jenkins yn arwain taith Première The Peacemakers ym Mhrydain mewn cyngerdd gwych ac ynddo hefyd ei gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd a mwyaf eu clod gan gynnwys pigion o Adiemus, The Armed Man, Requiem a Palladio..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2012
Debussy a Shostakovich BBC NOW
7:30 PM
Mae lliwiau cerddorfaol llachar Images Debussy yn deffro yn y cof wres, tyrfaoedd yn dawnsio ac oglau penfeddwol Sbaen gan gynnwys yr Iberia atgofus yn haul i gyd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2012
Ramin-In Concert
7:30 PM
Daeth bri drwy'r byd yn grwn i ran Ramin yn serennu yng nghyngerdd pum mlwyddiant ar hugain The Phantom of the Opera..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2012
Show The Nation
3:00 PM
Mae Show the Nation wedi ymuno a rhai o Ysgolion Dawns gorau Caerdydd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2012
Gwrando’r Gwreiddiau-Fraser and Haas
8:00 PM
Cymheiriaid anghymarus yn ôl pob golwg - Alasdair Fraser, a ystyrir ers talwm yn bennaf lysgennad y ffidil yn yr Alban, a’r soddgrythor ifanc dawnus o California..
Rhagor o WybodaethArchebu'n AwrCyngherddau Awr Ginio-Mavron Quartet
1:00 PM
I ddathlu 10 mlynedd y Mavron Quartet, mae Ensemble y Neuadd wedi comisiynu gwaith gan y gyfansoddwraig o Gymru Rhian Samuel gyda gwobr Women Make Music gan y PRS for Music Foundation. Bydd y gwaith yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y cyngerdd amser cinio..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr21 Mai 2012
Gentlemen of the Road presents Mumford & Sons
7:30 PM
Sold Out Winners of Brit Award for Best Album in 2010 come to Cardiff as part of limited UK tour with a vibe falling somewhere between 'travelling Victorian circus' and 'Victorian travelling circus'.
Rhagor o Wybodaeth21 Mai 2012
Essence of Ireland
7:30 PM
A chanddo bellach y cast mwyaf a mwyaf dawnus o Ddawnswyr, Canwyr a Cherddorion, mae Essence of Ireland yn cyfuno actau dawns digon i fynd â’ch gwynt hi â’r gorau oll o gerddoriaeth Iwerddon, twtsh o craic Gwyddelig, i gyd wedi’u cyd-weu’n ddeheuig yn stori galonogol..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
Mae Neuadd Dewi Sant a’r New Theatre yn cynnig mathau lawer o becynnau nawdd i gyd-fynd â chwmnïau rhif y gwlith. Mae’r Tîm Nawdd a Phartneriaeth yn arbenigo mewn cynghori busnesau ynghylch y math mwyaf addas o nawdd a chan hynny’n creu pecynnau mantais i gyd-fynd â gofynion cwmnïau.
Mae’r ddwy oedfan yn croesawu rhai o gynyrchiadau a pherfformwyr gorau’r byd i Gymru, ac yn cael cynulleidfaoedd mawr yn rheolaidd. Mae’r pecynnau wedi’u llunio gan ddal yr elfennau hyn mewn cof, gyda rhoi cyfle i noddwyr gyrraedd y cyhoedd a busnesau eraill ill dau.
Er bod yna becynnau safonol, mae’r rhan fwyaf o drefniadau nawdd wedi’u seilio ar nodau ac amcanion cwmni unigol, a chanddyn nhw fanteision sy’n ddrych o’r gofynion i gyd.
Mae nawdd yn rhoi lle i Neuadd Dewi Sant a’r New Theatre ill dwy gynnig rhaglen ddigwyddiadau o safon uchel. Yn eich tro fe gewch chi’n gyfnewid wasanaeth pum seren a gwnawn ein gorau glas i gyflawni nodau eich cwmni CHI.
Mae Partneriaethau ar gael yn Neuadd Dewi Sant yn ystod Proms Cymru a’r Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol. Datblygwyd y pecynnau i roi lle i gwmnïau groesawu yn y ddau bennaf ddigwyddiad yma.
Cynllun ydi O’r Unfath a gychwynnwyd er mwyn rhoi cyfle i gwmnïau gefnogi’r oedfan trwy ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyngor.