11 Chwefror 2012
Pahlawan The Musical
8:00 PM
Gŵyl Amrywiaeth Maleisia Gwroldeb, anrhydedd, teyrngarwch a chyfiawnder. Hanes brawdoliaeth, cariad a brad, yn digwydd ym mlynyddoedd machlud Swltaniaeth Malacca..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Cyngerdd Awr Ginio-Jeremy Huw Williams
1:00 PM
Mae’r bariton o Gymro Jeremy Huw Williams wedi perfformio mewn operâu a datganiadau drwy’r byd yn grwn ac mae’n canu prif rannau’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn bleidiwr cerddoriaeth gyfoes ac yn dal i gomisiynu gweithiau newydd a rhoi ei première i gerddoriaeth gan amryw byd o gyfansoddwyr cyfoes..
Rhagor o WybodaethArchebu'n AwrThe Rat Pack yn ei ôl i Gariadon ym Mhobman
8:00 PM
Gadewch i Frank, Sammy a Dean fynd â chi ar daith i’r Sands Hotel yn Las Vegas, lle gyda’i gilydd fel triawd y perfformion nhw nifer o ganeuon clasurol gan gynnwys I Got You Under My Skin, Lady Is A Tramp..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
LITTLE BIG CLUB YN FYW MEWN CYNGERDD
12.30pm & 3.30pm Mae The Little Big Club yn Fyw mewn Cyngerdd yn cyflwyno i chi gymeriadau cyn oed ysgol byd-enwog, gyda’i gilydd ac yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf mewn un sioe benigamp a dyma’r union ffordd i gadw’r cryts yn ddiddig yn ystod Hanner Tymor..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Rumours of Fleetwood Mac
8:00 PM
Dan berfformio hits clasurol, mewn hylltod o arddulliau a chymysgedd o genres cerddorol, mae Rumours Of Fleetwood Mac wedi perffeithio treftadaeth clasuron y felan, roc a pop a roes i Fleetwood Mac y safle eiconig yn y diwydiant cerdd sydd ganddyn nhw heddiw..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Russian State Philharmonic Orchestra
7:30 PM
Ffidil Brahms a Phedwaredd Symffoni Tchaikovsky ill dau. Gweithiodd Brahms fel lladd nadroedd i wireddu uchelgais ers tro sef cyfansoddi Concerto Ffidil ac ymateb angerddol oedd Pedwaredd Symffoni Tchaikovsky i un o’r argyfyngau personol mwyaf a ddaeth i’w ran erioed.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Killer Queen
7:30 PM
Mae Killer Queen yn gwefreiddio cynulleidfaoedd mewn tai dan eu sang ym mhedwar ban byd, yn ail-greu rhyfeddod egnïol a grymus, Queen yn fyw.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Lee Mead-The Love Tour
5:00 PM
Daeth Lee Mead yn Seren yn y West End yn chwarae’r brif ran yn Joseph wedi ennill ar y rhaglen deledu ‘Any Dream Will Do’ a dyma fe yn ei ôl gyda’i fand i berfformio cyngerdd byw o hits o’i albwm newydd..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Gwrando’r Gwreiddiau-Jacqui McShee's Pentangle
8:00 PM
Mae Jacqui McShee a Pentangle yn enwau chwedlonol. Ond bu un peth yn ddigyfnewid – mae llais dihafal Jacqui McShee yn yr amlwg bob gafael..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Chris Addison
8:00 PM
Yn syth o The Thick of It, Mock The Week, Have I Got News For You a’i daith yn 2010 a werthodd bob tocyn, bellach mae Chris Addison, y dyn roes y ‘Chris Addison’ yn “I see Chris Addison is touring again,” yn awr, ar daith unwaith eto!
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd Favourite Classics
7:30 PM
Mae tymor Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn mynd rhagddo â rhaglen o hoff glasuron yn cychwyn ag un o agorawdau mwyaf pefriol Rossini, The Thieving Magpie. Siawns nad ydi Wythfed Symffoni Dvorák yn un o’r darnau mwyaf dyrchafol a sgrifennwyd erioed, wedi’i seilio ar ganu gwerin Bohemia roedd Dvorák yn dotio ato gymaint.
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr11 Chwefror 2012
11 Chwefror 2012
Anton & Erin Let's Do It
7:30 PM
Yn dilyn taith a werthodd bob sedd drwy Brydain yn 2011, dyma ei hoff gwpwl dawnsio Anton du Beke ac Erin Boag, yn eu holau a sioe newydd ddigon o ryfeddod i’w canlyn..
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr
Er mwyn cynnig i’r gymuned fusnes y cyfle i ddod yn bartner dwy o’r pennaf oedfannau adloniant yng Nghaerdydd, mae’r Tîm Nawdd a Phartneriaeth wedi creu cynlluniau corfforaethol blynyddol sy’n addas ar gyfer busnesau bychain, canolig a mawr eu maint.
Mae arnom eisiau gwneud Croesawu Corfforaethol yn syml i gwmnïau prysur!
Archebu blaenoriaethol at ddefnydd corfforaethol fydd yn cynnwys prynu uchafrif o 6 o docynnau wedi’u gwarantu i sioeau sy’n gwerthu pob tocyn
Gwybodaeth ymlaen llaw am berfformiadau cyn iddyn nhw fod ar werth i’r cyhoedd
Archebu tocynnau blaenoriaethol i’r Staff a disgownt ar berfformiadau dethol
Cyfle i rwydweithio gyda noddwyr a phartneriaid
Cydnabyddiaeth mewn print
Cylchrediad y flwyddyn: Llyfrynnau tua 600,000; Rhaglenni tua 40,000
Cyfleuster anfonebu tocynnau
Anfonebir pryniannau tocynnau i gyd (defnydd corfforaethol yn unig - mae gofyn pryniant lleiafsymiol)
Hurio ystafelloedd Am Ddim Gyda’r Hwyr ac am Ddisgownt Liw Dydd
Darparir hurio ystafelloedd a mannau corfforaethol ill dau yn rhad ac am ddim pan fyddwch yn croesawu gwesteion mewn perfformiad ac am ddisgownt liw dydd: i’r dim ar gyfer cyfweliadau, diwrnodiau dysgu i ffwrdd, cyfarfodydd yng nghanol y ddinas (a bwrw eu bod ar gael). Tâl arbennig am hurio oedfannau ar gyfer seminarau/ciniawau.
Disgownt Tŷ Bwyta 10%
Laguna Kitchen & Bar, Park Plaza Cardiff Hotel, Heol y Brodyr Llwydion – Gwesty Partner y New Theatre 2009
Croesawu yn y Clwb Rygbi Corfforaethol
Pencampwriaethau’r Chwe Chenedl (gemau cartref yn unig)
Cyfle gwych i gwmnïau groesawu gwesteion mewn clwb dethol
Bydd bwyd bys a bawd a bar ar goel ar gael cyn y gêm am brisiau disgownt corfforaethol
Te prynhawn yn rhan o’r pris
Lleiafswm o ddeg gwestai’r cwmni – ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu
Dydi’r pris ddim yn cynnwys tocynnau
Dewiswch un dull talu o’r detholiad isod