22 Mawrth 2010
22 Mawrth 2010
Blas* A Taste of the fresh Welsh Sound
7:30 PM
The newest sounds on Wales' music scene
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr22 Mawrth 2010
22 Mawrth 2010
22 Mawrth 2010
22 Mawrth 2010
22 Mawrth 2010
Showtime 2010
2:30 PM
Cyflwynir gan Mandy & Shirley Morris School of Dance
Rhagor o WybodaethArchebu'n Awr22 Mawrth 2010
22 Mawrth 2010
Efallai y bydd rhai neu bob un o’r disgowntiau yma ar gael ar gyfer rhai digwyddiadau: Cyfeillion Neuadd Dewi Sant, Plant dan 16, Myfyrwyr, *Pobol dros eu 60, Pobol anabl (ynghyd ag un cydymaith), Pobol ddigyflog, Deiliaid cardiau MAX ac Aelodau Corfforaethol. Dim ond un disgownt gewch chi’i ddefnyddio ar bob tocyn ac mae gofyn prawf o’ch statws. Cofiwch ddweud pa ddisgownt rydych chi’n ei hawlio pan fyddwch chi’n codi tocynnau.
Caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn (ynghyd ag un cydymaith) godi tocynnau’r stalau am bris y tocyn rhataf i sioeau sy’n dangos y gostyngiad yma. Dydi llefydd cadeiriau olwyn ddim bob amser ar gael a dylid eu harchebu nhw trwy’r Swyddfa Docynnau, nid ar lein, i ymorol am gwrdd ag anghenion penodol cwsmeriaid.
Mae tocynnau myfyrwyr ar gael am hanner pris i gyngherddau cerddorfaol yng Nghyfres Cyngherddau Cerddorfaol Neuadd Dewi Sant. Mae disgowntiau hefyd ar gael i ddigwyddiadau dethol eraill – gweler y manylion ar y tudalennau Beth sydd Ymlaen unigol.
Os ydych chi’n oedolyn yn byw yng Nghaerdydd, ac yn cael un o amrywiaeth o fudd-daliadau, neu os ydych chi’n 16-18 oed mewn addysg llawn amser, neu ar gynllun Ceiswyr Sgiliau cofrestredig, gewch chi’ch gweithgareddau hamdden hyd at 50% yn rhatach gyda Cherdyn MAX. Does rhaid i chi ond rhoi caniad i 029 2087 3931.
Mae yna ostyngiadau a phrisiau arbennig i lawer o ddigwyddiadau. Gweler y paneli prisiau ar gyfer digwyddiadau unigol. Er eich cysur a’ch diogelwch chi’ch hun, bydd gofyn tocyn ar bob plentyn oed cerdded.
Dewch â pharti a chael arbedion gwerth chweil! Mae Neuadd Dewi Sant yn croesawu grwpiau o bob maint; rhoddir disgowntiau ar ddigwyddiadau dethol i grwpiau o ddeg neu fwy. Bydd ein Trefnydd Gwerthiannau Grwpiau, Chris Blackler, yn falch o roi cymorth i chi archebu yn ogystal ag agweddau eraill ar eich ymweliad a gellir cysylltu â hi ar 029 2087 8878.
Beth am roi Tocynnau Theatr yn anrheg arbennig iawn at unrhyw achlysur?
Cliciwch yma am ragor ynghylch Tocynnau Theatr.
Mae Tocynnau Teulu ar gael i rai digwyddiadau lle dangosir hynny. Mae hyn ar gyfer Teulu o Bedwar sy’n cynnwys uchafrif o ddau oedolyn ac o leiaf un plentyn dan 16 oed.
*Efallai na fydd y disgownt yma’n ar waith ar gyfer rhai perfformiadau. Teleffon 029 2087 8444.